Glamorganshire (Cambridge County Geographies)

Oddi ar Wicipedia


Map o Forgannwg allan o'r gyfrol

Glamorganshire yw'r gyfrol yn y gyfres Cambridge County Geographies sy'n ymdrin â'r hen Forgannwg.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Mae Cambridge County Geographies yn gyfres o lyfrau a gyhoeddwyd gan Wasg Brifysgol Caergrawnt yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif. Cynlluniwyd Cambridge County Geographies i ddarparu cyfres o ganllawiau cryno i rai o siroedd Cymru, Yr Alban a Lloegr. Wedi'u hanelu at y darllenydd cyffredinol, fe wnaethant gyfuno dull cynhwysfawr o ymdrin ag amrywiol agweddau ar ddaearyddiaeth gorfforol a dynol gyda phwyslais ar eglurder. Mae'r llyfrau yn frith o ffotograffau, mapiau a graffiau. Ysgrifennwyd y gyfrol am Forgannwg gan y Parch Joseph Henry Wade, ac fe'i cyhoeddwyd gyntaf ym 1914 gan Wasg Brifysgol Caergrawnt. Ailgyhoeddwyd y gyfrol yn 2013,[2] mae'r ailgyhoeddiad dal mewn print. Mae modd darllen y gyfrol wreiddiol ar wefan Internet Archive.[3]

Cafodd y gyfrol adolygiadau da yn y wasg Gymreig ar adeg ei gyhoeddi am y tro cyntaf.[4][5]

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Mae'r llyfr yn cynnwys 25 pennod sy'n ymdrin â tharddiad ac ystyr yr enw Morgannwg; nodweddion cyffredinol y sir a'i afonydd, llynnoedd ac arfordiroedd yn ogystal â'i phorthladdoedd. Mae'r gyfrol yn ymdrin â hanes pensaernïaeth, enwogion a hynafiaethau'r sir yn ogystal â thrafodaeth am bobl, iaith a phoblogaeth. Mae penodau am ddaeareg, hanes naturiol a hinsawdd ynghyd â phennod sy'n trafod prif ddiwydiannau'r fro megis mwyngloddio, cynhyrchu, pysgota ac amaethyddiaeth. Mae hefyd rhestr gyda pharagraff o wybodaeth am holl drefi a phentrefi Morgannwg.

Penodau[golygu | golygu cod]

Dyma restr o benodau'r gyfrol

  1. County and Shire. The name Glamorgan
  2. General Characteristics
  3. Size. Shape. Boundaries
  4. Surface and General Features
  5. Geology and Soil
  6. Watersheds and Rivers
  7. Natural History
  8. A Peregrination of the Coast
  9. Coastal Gains and Losses: Sandbanks and Lighthouses
  10. Climate and Rainfall
  11. People, Race, Language. Population
  12. Agriculture
  13. Industries and Manufactures
  14. Mines and Minerals
  15. Fisheries and Fishing Stations
  16. Shipping and Trade. Chief Ports
  17. The History of Glamorganshire
  18. Antiquities
  19. Architecture (a) Ecclesiastical.
  20. Architecture (b) Military
  21. Architecture (c) Domestic
  22. Communications Past and Present
  23. Administration
  24. Roll of Honour
  25. The Chief Towns and Villages of Glamorganshire

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Wade, Joseph Henry (1914). Glamorganshire. Caergrawnt: Gwasg Brifysgol Caergrawnt.
  2. Wade, J. H. (Joseph Henry), 1861-1943. (2012). Glamorganshire. Cambridge: Cambridge University Press. ISBN 978-1-107-61972-2. OCLC 806199574.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  3. "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-12-08.
  4. "REVIEW OF PUBLICATIONS - Barry Dock News". South Wales Advertising, Printing, and Publishing Company. 1914-08-28. Cyrchwyd 2019-12-09.
  5. "NODIAD AR LYFR - Y Darian". W. Pugh and J. L. Rowlands. 1914-09-10. Cyrchwyd 2019-12-09.