Ghardimaou
Math | municipality of Tunisia |
---|---|
Poblogaeth | 64,170 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Jendouba |
Gwlad | Tiwnisia |
Yn ffinio gyda | Ouled Moumen |
Cyfesurynnau | 36.4503°N 8.4397°E |
Cod post | 8160 |
Mae Ghardimaou neu Ghardimao (Arabeg: غار الدماء) yn ddinas yng ngogledd-orllewin Tiwnisia sy'n gorwedd 192 km i'r dwyrain o'r brifddinas Tiwnis.
Mae Ghardimaou yn rhan o dalaith Jendouba, a chanolfan yr ardal leol (délégation) sydd gyda phoblogaeth o 67,955. Mae tua 19,688 o bobl yn byw yn Ghardimaou ei hun.
Ghardimaou yw'r arosfa olaf ar y rheilffordd o Diwnis a adeiladwyd gan Ffrainc yn 1878; mae gwasanaeth traws-Maghreb yr Al-Maghreb al-Arabi yn pasio trwy'r ddinas unwaith eto erbyn heddiw, ar ôl cyfnod hir heb redeg oherwydd y rhyfel cartref yn Algeria. Y ddinas yw'r lle mawr olaf yn nyffryn Medjerda cyn cyrraedd y ffin ag Algeria (16 km i'r gorllewin).
Yng nghyffiniau Ghardimaou ceir dau safle archaeolegol Rhufeinig diddorol, sef tref a chwarel Chemtou a dinas fechan Thubernica. Mae bryniau'r Kroumirie yn codi o gwmpas y ddinas.