George Jackson Churchward

Oddi ar Wicipedia
George Jackson Churchward
Ganwyd31 Ionawr 1857 Edit this on Wikidata
Stoke Gabriel Edit this on Wikidata
Bu farw19 Rhagfyr 1933 Edit this on Wikidata
Swindon Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Ramadeg Totnes Edit this on Wikidata
Galwedigaethpeiriannydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Roedd George Jackson Churchward (31 Ionawr 185719 Rhagfyr 1933) yn Brif Beiriannydd Mecanyddol Rheilffordd y Great Western rhwng 1902 a 1922.

Ganwyd Churchward yn Stoke Gabriel, Dyfnaint.[1]

Ar ôl gadael yr ysgol yn 16 oed, gweithiodd dros Reilffordd De Swydd Dyfnaint. Pan daeth y rheilffordd yn rhan o Reilffordd y Great Western, gweithiodd o o dan William Dean, yn gyntaf fel adolygwr nwyddau, wedyn cynorthwyydd i reolwr y gweithdy cerbydau, ac wedyn cymerodd drosodd fel rheolwr. Symudodd o i waith ar locomotifau ym 1895, ac ym 1897 daeth o'n cynorthwyydd i William Dean. Datblygodd o gynllun gwreiddiol Dean o'r dosbarth 'City' 4-4-0, a dywedir bod City of Truro wedi cyrraedd 100 milltir yr awr yn 1904, y locomotif cyntaf i'w wneud. Cynlluniodd o locomotifau mwy i'r rheilffordd, yn defnyddio trefniant olwynion 4-6-0 am y tro cyntaf, yn dechrau yn Chwefror 1902. Cyflwynodd o safoniad i rannau locomotifau, yn benodol efo boeler y locomotif. O 1908 ymlaen adeiladwyd locomotifau i gyd y rheilffordd yn Swindon a daeth y gweithdy yn ddwywaith y maint yn ystod cyfnod Churchward. Anfonodd o peirianyddion tramor er mwyn dysgu o reilffyrdd eraill. Roedd Churchward ei hyn wedi astudio locomotifau o America a Ffrainc..[1][2]

Daeth yn faer Swindon ym 1900.

Lladdwyd Churchward gan drên Paddington - Abergwaun ar 19 Rhagfyr 1933.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Gwefan greatwestern.org.uk
  2. 2.0 2.1 "Gwefan swindonweb". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-23. Cyrchwyd 2016-09-08.