La Generación del 900

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Generación del 900)
La Generación del 900
GwladwriaethWrwgwái Edit this on Wikidata
Rhai o aelodau blaenllaw La Generación del 900, clocwedd o chwith y brig i'r canol: Florencio Sánchez, María Eugenia Vaz Ferreira, Julio Herrera y Reissig, José Enrique Rodó, Carlos Reyles, Emilio Frugoni, Delmira Agustini, Horacio Quiroga, Javier de Viana.

Enw ar fudiad o lenorion o Wrwgwái a anwyd rhwng 1868 a 1886 yw La Generación del 900 a fuont ar eu hanterth tua'r flwyddyn 1900. Nodweddai'r to llenyddol hwn gan dueddiadau modernaidd, a oedd yn gysylltiedig â'r modernismo ar draws llên America Ladin.

Cyd-destun[golygu | golygu cod]

Yn y cyfnod rhwng 1897 a 1904, profodd Wrwgwái uchafbwynt yn ei hanes: daeth yr hen drefn caudillismo i ben, gan beri'r ddadl ynghylch pleidiau gwleidyddol a lleiafrifoedd y boblogaeth, gwrthdaro a arweiniodd at wrthryfeloedd yn ddiweddarach yn yr 20g. Roedd safonau byw y dosbarth canol cystal â'r Ewropeaid, ac enillodd Wrwgwái y llysenw "Swistir yr Amerig". Ymddangosodd rhyddfrydiaeth a phositifiaeth fel prif athroniaethau gwleidyddol a deallusol y dosbarthau addysgedig, yn ogystal â mudiadau anarchaidd ac estheteg ecsentrig.

O'r sefyllfa hon, eginodd genhedlaeth o awduron, athrawon a deallusion a chanddynt bryderon a fyddai'n diffinio hunaniaeth genedlaethol yr Wrwgwaiaid yn yr 20g.[1]

Cynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd o lenorion mewn caffis Montevideo fel Polo Bamba a Tupí Nambá. Bu Horacio Quiroga, Julio Herrera y Reissig ac eraill yn trafod eu barddoniaeth, rhyddiaith, ysgrifau, a beirniadaeth, a hefyd yn cydweithio ac yn trafod materion cyfoes. Diffiniodd cyfeillgarwch a chystadleuaeth artistig ymhlith aelodau'r genhedlaeth hon fywyd deallusol Wrwgwái ar droad y ganrif.

Aelodau'r genhedlaeth[golygu | golygu cod]

Daeth nifer o gylchgronau llenyddol i'r amlwg, yn eu plith y Revista Nacional de Literature y Ciencias Sociales (1895–97) a olygwyd gan José Enrique Rodó, Carlos a Daniel Martínez Vigil, a Víctor Pérez Petit, La revista de Salto (1899–1900) gan Horacio Quiroga, La revista (1899–1900), La nueva Atlántida (1907) dan olygyddiaeth Julio Herrera y Reissig, a Vida moderna (1900–03) gan Rafael Alberto Palomeque a Raúl Montero Bustamante.[2]

Nodir dechreuad y mudiad gan gyhoeddiad y gerdd "Al lector" gan Roberto de las Carreras yn 1894. Bu farw llawer o aelodau mwyaf arwyddocáol y genhedlaeth hon yn ifanc, ac felly roedd y mudiad llenyddol ei hunan ar drengi erbyn canol y 1920au.

Ymhlith llenorion eraill La Generación del 900 mae Carlos Vaz Ferreira, Carlos Reyles, Javier de Viana, Delmira Agustini, Carlos Roxlo, ac Emilio Frugoni.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Sbaeneg) Emir Rodríguez Monegal, "La generación del 900", Número 6-7-8 (1950), tt. 37-61.
  2. "El aura del 900". Capítulo Oriental (11). 1950. http://www.periodicas.edu.uy/Capitulo_Oriental/pdfs/Capitulo_Oriental_11.pdf.
  3. Alberto Zum Felde (1930). Proceso intelectual del Uruguay y crítica de su literatura. Imprenta Nacional Colorada.