Neidio i'r cynnwys

Florencio Sánchez

Oddi ar Wicipedia
Florencio Sánchez
GanwydFlorencio Antonio Sánchez Mussante Edit this on Wikidata
17 Ionawr 1875 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
Bu farw7 Tachwedd 1910 Edit this on Wikidata
Milan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethWrwgwái Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, newyddiadurwr, dramodydd, dramodydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amHonest people, M'hijo el dotor, Canillita Edit this on Wikidata
Arddulldramayddiaeth Edit this on Wikidata

Dramodydd a newyddiadurwr o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Florencio Sánchez (17 Ionawr 18757 Tachwedd 1910). Roedd yn un o aelodau La Generación del 900.

Ganwyd ym Montevideo a chafodd ei fagu yng nghefn gwlad. Gweithiodd fel clerc tra'n ysgrifennu beirniadaeth theatr ac erthyglau eraill ar gyfer papurau newydd lleol. Bu hefyd yn actio yn y theatr amatur. Brwydrodd wrth ochr y caudillo Aparicio Saravia yn erbyn yr Arlywydd Juan Idiarte Borda, ac ysgrifennodd y llyfr El caudillaje criminal en Sudamérica (1903) am ei brofiad. Trodd Sánchez at y mudiad anarchaidd, a pherfformiwyd ei ddramâu cynnar mewn canolfannau hamdden yr anarchwyr.[1]

Gweithiodd i bapurau newydd, gan gynnwys La República yn Rosario, yr Ariannin. Ei lwyddiant mawr cyntaf oedd y ddrama El canillita (1904). Teithiodd i gefn gwlad yr Ariannin, a'i brofiadau yno a ysbrydolodd La gringa (1904), M'hijo el dotor (1903), a Barranca abajo (1905). Symudodd Sánchez i Buenos Aires.[1]

Aeth i'r Eidal gyda chymorth ariannol llywodraeth Wrwgwái i ymweld â theatrau'r wlad. Bu farw ym Milan yn 35 oed.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Georgette Magassy Dorn, "Sánchez, Florencio (1875–1910)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar 28 Ebrill 2019.

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • Anastasia Detoca, Estética e ideología en el teatro de Florencio Sánchez (Montevideo: Ediciones del CEHU, 2003).
  • Fernando García Esteban, Vida de Florencio Sánchez: Con cartas inéditas del insigne dramaturgo (1939).
  • Roberto Fernando Giusti, Florencio Sánchez: Su vida y su obra (1920).
  • Osvaldo Pellettieri a Roger Mirza, Florencio Sánchez entre las dos orillas (Buenos Aires: Galerna, 1998).
  • Walter Rela, Florencio Sánchez: Persona y teatro (1967).
  • Ruth Richardson, Florencio Sánchez and the Argentine Theater (1933).
  • Ignacio Rosso, Anatomía de un genio: Florencio Sánchez (Montevideo: Ediciones de la Casa del Estudiante, 1988).