Geirfa diplomyddiaeth
Gwedd
A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I J L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y |
A[golygu | golygu cod]
- Alltiriogaethedd
- Cysyniad cyfreithiol sydd yn ystyried eiddo real y llysgenhadaeth dan awdurdodaeth yr anfonwr-wladwriaeth, er ei bod wedi ei lleoli yn nhiriogaeth y wladwriaeth letyol.
B[golygu | golygu cod]
- Breinryddid diplomyddol
- Rhagorfreintiau arbennig y diplomydd sydd yn ei ddiogelu mewn gwladwriaethau eraill.
C[golygu | golygu cod]
- Conswl
- Swyddog wedi ei benodi i fyw mewn dinas dramor i wylio yno dros fuddiannau masnachol a hawliau deiliaid ei wladwriaeth ei hun.
- Conswliaeth
- Cenhadaeth ddiplomyddol dan arweiniad conswl, sydd yn ddarostyngedig i lysgenhadaeth.
D[golygu | golygu cod]
- Détente
- Esmwytho perthynas ddiplomyddol dan straen.
- Diplomyddiaeth
- Y gelf ac ymarferiad o gynnal trafodaethau rhwng cynrychiolwyr gwladwriaethau gwahanol.
- Dyhuddo
- Agwedd o ddiddigio a chymodi â'r gwrthwynebwr neu'r gelyn yn y gobaith o gael heddwch.
G[golygu | golygu cod]
- Gwibddiplomyddiaeth
- Ymdrechion diplomydd o wlad neu sefydliad allanol sydd yn gweithredu fel canolwr rhwng y prif bleidiau mewn anghydfod, trwy "wenoli" rhyngddynt, heb i'r prif bleidiau cwrdd a'i gilydd yn uniongyrchol.
Ll[golygu | golygu cod]
- Llysgenhadaeth
- Cenhadaeth ddiplomyddol dan arweiniad llysgennad.
- Llysgennad
- Diplomydd sydd yn cynrychioli ei wladwriaeth fel pennaeth ar lysgenhadaeth.
N[golygu | golygu cod]
- Nesâd
- Ail-sefydlu cysylltiadau diplomyddol rhwng gwladwriaethau.