Gall
Gall | |
---|---|
Ganwyd | 1840 De Dakota |
Bu farw | 5 Rhagfyr 1894 De Dakota |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | penadur |
Swydd | cadfridog rhyfel |
Pennaeth pobl frodorol yr Hunkpapa Lakota, cangen o'r Sioux, oedd Gall (c. 1840 - 5 Rhagfyr, 1895) (Lakota Pizí).
Ganed ef yn yr hyn sy'n awr yn dalaith De Dakota yn yr Unol Daleithiau tua 1840. Daeth yn amlwg fel rhyfelwr yn ieuanc, ac roedd yn un o'r arweinwyr ym Mrwydr Little Big Horn yn 1876. Gorchfygwyd George Armstrong Custer gan fyddin o ryfelwyr Sioux, Cheyenne ac Arapaho, dan arweiniad Gall, Thasuka Witco ("Crazy Horse") a Tatanka Lyotake ("Sitting Bull"), er nad oedd yr olaf yn bresennol ar faes y frwydyr. Lladdwyd Custer a'i filwyr i gyd.
Yn ddiweddarach ffôdd Gall i Canada, cyn dychwelyd i'r Unol Daleithiau ac ymsefydlu fel ffermwr a barnwyr yn Llys Materion Indiaidd y Standing Rock Indian Reservation. Trodd yn erbyn Sitting Bull pan ddaeth hwnnw'n rhan o fudiad Dawns yr Ysbrydion. Bu byw yn y Standing Rock Agency hyd ei farwolaeth.