Gabriel Prosser
Gwedd
Gabriel Prosser | |
---|---|
Ganwyd | 1775 Henrico County |
Bu farw | 7 Hydref 1800 |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | gof, Slave rebellion leader |
Roedd Gabriel Prosser, neu Gabriel (c.1776 – 10 Hydref 1800), yn arweinydd gwrthryfel pobl groen ddu ar ddiwedd y 18g yn Virginia (UDA heddiw).
Ganwyd Gabriel yn Henrico County, Virginia, tua'r flwyddyn 1776. Arweiniodd wrthryfel y caethweision yn erbyn creulondeb y meistri. Roedd yn bwriadu arwain mintai o fil o gaethweision i ymosod ar Richmond, prifddinas talaith Virginia, ei chipio a sefydlu gweriniaeth annibynnol i bobl dduon y Conffederasiwn. Ond cafodd ei ddal a'i grogi yn 1800 ar ôl i un o'r caethweision rybuddio llywodraethwr Richmond.