Funiculì, Funiculà
Gwedd
Cerbyd y rheilffordd ffwniciwlar ar Fynydd Vesuvius (19g) | |
| Enghraifft o: | gwaith neu gyfansodiad cerddorol |
|---|---|
| Iaith | tafodiaith Napoli |
| Dyddiad cyhoeddi | 1880 |
| Genre | Cân yn arddull Napoli |
| Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
| Cyfansoddwr | Luigi Denza |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/094yxn |
Cân o Napoli yw Funiculì, Funiculà a gyfansoddwyd ym 1880 gan Luigi Denza. Fe'i hysgrifennwyd i ddathlu agor rheilffordd ffwniciwlar ar ochr Mynydd Vesuvius ger Napoli, yr Eidal, ac mae'r geiriau gan Peppino Turco yn nhafodiaith Napoli. Cyhoeddwyd y gerddoriaeth ddalen gan Ricordi a gwerthwyd dros filiwn o gopïau o fewn blwyddyn. Ers ei gyhoeddi, mae wedi ei gyfieithu i nifer o ieithoedd a'i ganu gan lawer o berfformwyr.