Frozen (ffilm 2013)

Oddi ar Wicipedia
Frozen
Poster swyddogol y ffilm
Cyfarwyddwyd gan
  • Chris Buck
  • Jennifer Lee
Cynhyrchwyd ganPeter Del Vecho
SgriptJennifer Lee
Stori
  • Chris Buck
  • Jennifer Lee
  • Shane Morris
Yn serennu
  • Kristen Bell
  • Idina Menzel
  • Jonathan Groff
  • Josh Gad
  • Santino Fontana
Cerddoriaeth gan
  • Kristen Anderson-Lopez
  • Robert Lopez
  • Christophe Beck
  • Frode Fjellheim
Sinematograffi
  • Scott Beattie
  • Mohit Kallianpur
Golygwyd ganJeff Draheim
Stiwdio
  • Walt Disney Pictures
  • Walt Disney Animation Studios
Dosbarthwyd ganWalt Disney Studios
Motion Pictures
Rhyddhawyd gan
  • Tachwedd 19, 2013 (2013-11-19) (El Capitan Theatre)
  • Tachwedd 27, 2013 (2013-11-27) (Unol Daleithiau)
Hyd y ffilm (amser)102 munud[1]
GwladUnol Daleithiau
IaithSaesneg
Cyfalaf$150 miliwn[2][3]
Gwerthiant tocynnau$1.276 biliwn[3]

Mae Frozen yn ffilm gerddorol animeiddiedig Americanaidd o 2013 a gynhyrchwyd gan Stiwdios Animeiddio Walt Disney ac a ryddhawyd gan Walt Disney Pictures.[4] Dyma oedd y 53fed ffilm animeiddiedig gan Disney. Ysbrydolwyd ffilm gan stori tylwyth teg Hans Christian Andersen o'r enw The Snow Queen. Adrodda hanes tywysoges eofn sy'n mynd ar siwrnai epig gyda dyn o ia, ei charw ffyddlon a dyn eira naif er mwyn darganfod ei chwaer, sydd (yn anfwriadol) wedi achosi i'r deyrnas fod mewn gaeaf parhaol.

Ysgrifennwyd y sgript gan Jennifer Lee, a gweithiodd hi a Chris Buck fel cyfarwyddwyr. Lleisir y cymeriadau gan Kristen Bell, Idina Menzel, Jonathan Groff, Josh Gad a Santino Fontana. Cyflogwyd Christophe Beck i gyfansoddi sgor y ffilm, tra bod Robert Lopez a Kristen Anderson-Lopez wedi ysgrifennu'r geiriau.

Cast a chymeriadau[golygu | golygu cod]

  • Kristen Bell fel Y Dywysoges Anna
  • Idina Menzel fel Y Frenhines Elsa
  • Jonathan Groff fel Kristoff
  • Josh Gad fel Y Dyn Eira Olaf
  • Santino Fontana fel Y Dywysog Hans
  • Alan Tudyk fel Mae Dug Weselton
  • Ciarán Hinds fel Grand Pabbie
  • Chris Williams fel Oaken
  • Paul Briggs fel Marshmallow
  • Maurice LaMarche fel y Frenin Arendelle, tad Anna a Elsa
  • Jennifer Lee fel y Frenhines Arendelle, mam Anna a Elsa

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Frozen". Ontario Film Review Board. 12 Tachwedd 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-16. Cyrchwyd 15 Ionawr 2014.
  2. Smith, Grady (27 Tachwedd 2013). "Box office preview: "Frozen" ready to storm the chart, but it won't beat "Catching Fire"". Entertainment Weekly. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2013.
  3. 3.0 3.1 "Frozen (2013)". Box Office Mojo. Cyrchwyd 10 Awst 2014.
  4.  Disneyland Resort Debuts "World of Color – Winter Dreams," a Merry New Spectacular for 2013 Holiday Season (27 Gorffennaf 2013).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Animation.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm animeiddiedig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.