Fred Rogers
Fred Rogers | |
---|---|
Ganwyd | 20 Mawrth 1928 Latrobe |
Bu farw | 27 Chwefror 2003 Pittsburgh |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, pypedwr, canwr, awdur, cyfansoddwr, addysgwr, sgriptiwr, cyfansoddwr caneuon, cyflwynydd teledu, cynhyrchydd teledu, diwinydd, actor teledu |
Mam | Nancy Flagg |
Priod | Joanne Rogers |
Gwobr/au | Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobrau Peabody, Gwobr Emmy 'Daytime', Chwedl Fyw Llyfrgell y Gyngres, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
llofnod | |
Actor a seren deledu o'r Unol Daleithiau oedd Frederick McFeely "Fred" Rogers (20 Mawrth 1928 – 27 Chwefror 2003).[1] Roedd yn enwog am greu rhaglenni, eu cyflwyno ac am gyfansoddi cerddoriaeth agoriadol ar gyfer y gyfres plant bach Mister Rogers' Neighborhood (1968–2001).[2]
Cafodd ei hyfforddi i fod yn weinidog yr Efengyl ond nid oedd yn hapus gyda chyfeiriad teledu yn yr Unol Daleithiau, yn enwedig yr arlwy ar gyfer plant a phobl ifanc. Ar deledu yn ardal Pittsburgh y cychwynodd ond erbyn 1968 roedd ganddo ei sioe deledu ei hun a darlledwyd hon ar gyfer y wlad gyfan gan American Public Television. Dros y degawdau nesaf daeth Rogers yn eicon gan ei gynulleidfa.[3] Bu hefyd yn flaenllaw yn hybu achosion da yn ymwneud ag addysg pobl ifanc. Ymladdodd yr hawl i gynnwys recordiadau ar drwydded "defnydd teg" er mwyn eu darlledu drachefn a thrachefn ("time shifting") a sefydlodd gefnogaeth y llywodraeth i ddarlledu ar gyfer plant a phobl ifanc.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Fred Rogers". IMDb. Cyrchwyd 7 Mawrth 2008.
- ↑ "Bill Text – 108th Congress (2003–2004) – S.CON.RES.16.ATS". THOMAS. Library of Congress. 5 Mawrth 2003. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-18. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2010.
- ↑ Sostek, Anya (6 Tachwedd 2009). "Mr. Rogers takes rightful place at riverside tribute". Pittsburgh Post-Gazette. Cyrchwyd 6 Tachwedd 2010.
- ↑ "Mister Rogers defending PBS to the US Senate". YouTube. Cyrchwyd 6 Medi 2010.