Françoise Hardy
| Françoise Hardy | |
|---|---|
| Ganwyd | Françoise Hardy 17 Ionawr 1944 9fed bwrdeistref Paris, Paris |
| Bu farw | 11 Mehefin 2024 o canser breuannol, pharyngeal cancer Ysbyty Americanaidd Paris, Neuilly-sur-Seine |
| Man preswyl | 16ain bwrdeistref Paris |
| Label recordio | Disques Vogue, Philips Records, Pathé, Virgin Records |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | astroleg, canwr, cyfansoddwr caneuon, ysgrifennwr, actor, canwr-gyfansoddwr |
| Arddull | French pop, variety, chanson, ballade, bossa nova, Y twist, slow |
| Taldra | 1.71 metr |
| Priod | Jacques Dutronc |
| Plant | Thomas Dutronc |
| Gwobr/au | Victoires de la Musique - Artist benywaidd y flwyddyn |
| Gwefan | http://www.francoise-hardy.com |
| llofnod | |
Canwr, cyfansoddwr ac actor o Ffrainc oedd Françoise Madeleine Hardy (17 Ionawr 1944 - 11 Mehefin 2024). Roedd hi'n adnabyddus yn bennaf am ganu baledi melancolaidd. Daeth Hardy i amlygrwydd yn y 1960au cynnar fel ffigwr blaenllaw yn y genre yé-yé. Canodd hefyd yn Saesneg, Eidaleg ac Almaeneg. Roedd ei gyrfa yn ymestyn dros fwy na hanner can mlynedd.
Cafodd Hardy ei geni yng Nghlinig Marie-Louise yn 9fed arrondissement Paris, yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[1][2][3] Ni wnaeth ei thad Étienne Dillard—gŵr priod a hanai o deulu llawer cyfoethocach—fawr ddim i helpu ei mam, Madeleine Hardy, yn ariannol.[3][4][5] Cododd Madeleine ei merched yn llym, mewn fflat gymedrol ar Rue d'Aumale. [3]
Rhwng 1952 a 1960, anfonwyd Hardy a'i chwaer bob haf i Awstria i ddysgu Almaeneg.[6] Yn fyfyrwraig ddisgybledig, pasiodd Hardy ei baccalauréat ym 1960 yn un ar bymtheg oed.[7] Fel anrheg, dewisodd gitâr, a dechreuodd ganu ei halawon ei hun gyda hi.[7] Cofrestrodd yn Sefydliad Astudiaethau Gwleidyddol Paris tra'n dal yn ei harddegau.[7] Ymunodd â'r Sorbonne i astudio Almaeneg.[8]
Dechreuodd canu ar lwyfan bach y Moka Club.[8] Aeth hi i Philips Records, ac argymhellwyd iddi gymryd gwersi canu.[8] Ymunodd Hardy â'r Petit Conservatoire de la chanson ym 1961, ysgol i berfformwyr radio, dan arweiniad y gantores Mireille Hartuch. Wedi'i lansio'n wreiddiol fel rhaglen radio yn 1955, trowyd y Petit Conservatoire yn sioe deledu boblogaidd gan ddechrau ym Mehefin 1960.[8][9]
Dechreuodd Hardy berthynas gyda chanwr arall, Jacques Dutronc, ym 1967, a bu llawer o gyhoeddusrwydd.[10][11] Ni wnaethant fyw gyda'i gilydd tan ar ôl genedigaeth eu hunig blentyn, Thomas, ar 16 Mehefin 1973.[12] Yn hydref 1974, symudodd Hardy a Dutronc i mewn gyda'i gilydd mewn tŷ tri llawr ger Parc Montsouris, gydag ystafelloedd gwely ar wahân.[12] Bob haf, symudodd y teulu i dŷ oedd yn eiddo i Dutronc yn Lumio, ar ynys Corsica.[12]
Fel ffigwr cyhoeddus, roedd Hardy yn adnabyddus am ei gonestrwydd ynglŷn â’i safbwyntiau gwleidyddol adain dde[13][14] oedd yn ddadleuol ar brydiau.[15]
Bu farw Hardy o ganser laryngaidd ym Mharis, yn 80 oed.[16] Cyn ei marwolaeth, roedd hi hefyd wedi cael sawl codwm gan dorri esgyrn.[16][17]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Hardy, 2018 [2008], "One"
- ↑ "Françoise Hardy, la mélancolie en chansons". France Culture (yn Ffrangeg). 8 Hydref 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Mai 2021. Cyrchwyd 10 Mai 2021.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Quinonero, 2017, "«C'est ton enfance / Qui se promène à cloche-pied / Dans ta mémoire..."
- ↑ Dieu, Sarah (31 March 2021). "Françoise Hardy malade: ce que l'on sait sur sa santé" (yn Ffrangeg). L'Internaute. Cyrchwyd 10 May 2021.
- ↑ "Françoise Hardy – Biography". Radio France Internationale. March 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 April 2018. Cyrchwyd 27 October 2016.
- ↑ Quinonero, 2017, "Les étés autrichiens"
- ↑ 7.0 7.1 7.2 Hardy, 2018 [2008], "Two"
- ↑ 8.0 8.1 8.2 8.3 Quinonero, 2017, "«Un air de guitare..."
- ↑ Dartois, Florence (29 Mawrth 2021). "1962, Françoise Hardy, jeune espoir du "Petit conservatoire"" (yn Ffrangeg). INA. Cyrchwyd 21 Mai 2021.
- ↑ Waltersmoke (24 Mai 2014). "Françoise HARDY – Ma Jeunesse Fout Le Camp (1967)" (yn Ffrangeg). Forces Parallèles. Nightfall.fr. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Mai 2021. Cyrchwyd 27 Mai 2021.
- ↑ Quinonero, 2017, "«Le jour où tu voudras / Je serai là pour toi»"
- ↑ 12.0 12.1 12.2 Quinonero, 2017, "Thomas, l'enfant de l'amour"
- ↑ Hardy, 2017, "Décalages et dérapages"
- ↑ Guilbert, Georges-Claude (30 Mai 2018). Gay Icons: The (Mostly) Female Entertainers Gay Men Love (yn Saesneg). McFarland. tt. 85–86. ISBN 9781476674339. Cyrchwyd 1 Awst 2018.
- ↑ Sweeney, Philip (14 Mehefin 1996). "Arts: Don't talk to me about the Sixties". The Independent (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 January 2021. Cyrchwyd 15 Mai 2021.
- ↑ 16.0 16.1 "Françoise Hardy, icône de la culture pop, est morte" (yn Ffrangeg). Le Monde. 11 Mehefin 2024. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mehefin 2024. Cyrchwyd 11 Mehefin 2024.
- ↑ Beaumont-Thomas, Ben. "Françoise Hardy, French pop singer and fashion muse, dies aged 80". The Guardian (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mehefin 2024. Cyrchwyd 12 Mehefin 2024.