Fleur Adcock

Oddi ar Wicipedia
Fleur Adcock
Ganwyd10 Chwefror 1934 Edit this on Wikidata
Papakura Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Seland Newydd Seland Newydd
Alma mater
  • Prifysgol Victoria yn Wellington Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, cyfieithydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
PriodAlistair Campbell, Barry Crump Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, Gwobr Cholmondeley, Gwobr Aur y Frenhines am Farddoniaeth, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Fellow of the Academy of New Zealand Literature, Prime Minister's Award for Literary Achievement (Poetry) Edit this on Wikidata

Bardd o Seland Newydd yw Fleur Adcock (ganwyd 10 Chwefror 1934) sydd o linach Gwyddelig.[1]

Fe'i ganed yn Papakura, un o faestrefi Auckland ar 10 Chwefror 1934.[2][3][4]

Fleur Adcock oedd yr hynaf o ddwy chwaer a anwyd i Cyril John Adcock ac Irene Robinson Adcock. Mae'r nofelydd Marilyn Duckworth yn un o'i chwiorydd. Astudiodd Fleur Adcock y Clasuron ym Mhrifysgol Victoria, Wellington, gan raddio gydag MA. Gweithiodd fel darlithydd cynorthwyol ac yn ddiweddarach yn llyfrgellydd cynorthwyol ym Mhrifysgol Otago yn Dunedin tan 1962. Bu'n briod â dau lenor enwog yn Seland Newydd. Yn Awst 1952, priododd ag Alistair Campbell (ysgariad 1958). Yn Chwefror 1962 priododd Barry Crump gan ysgaru yn 1963.[5]

Yn 1963, ymfudodd Adcock i Loegr lle derbyniodd swydd fel llyfrgellydd cynorthwyol yn y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn Llundain tan 1979. Ers hynny mae wedi bod yn awdur llawrydd, yn byw yn East Finchley, gogledd Llundain. Mae hi wedi cynnal sawl cymrodoriaeth lenyddol, gan gynnwys Cymrodoriaeth Lenyddol Celf y Gogledd yn Newcastle upon Tyne a Durham ym 1979-81.

Barddoniaeth[golygu | golygu cod]

Mae barddoniaeth Adcock fel arfer yn ymwneud â'r themâu: lle, perthnas pobol a gweithgareddau bob dydd, ond yn aml gyda thro tywyll yn cael ei roi i ddigwyddiadau cyffredin. Ar y dechrau, dylanwadwyd ar ei gwaith gan ei hyfforddiant clasurol, ond mae ei gwaith mwy diweddar yn fwy llac ei strwythur ac yn ymwneud yn fwy â byd y meddwl.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • 1964: The Eye of the Hurricane, Wellington: Reed[6]
  • 1967: Tigers, London: Oxford University Press[6]
  • 1971: High Tide in the Garden, London: Oxford University Press[6]
  • 1974: The Scenic Route, London and New York: Oxford University Press[6]
  • 1979: The Inner Harbour, Oxford and New York: Oxford University Press[6]
  • 1979: Below Loughrigg, Newcastle upon Tyne: Bloodaxe Books[6]
  • 1983: Selected Poems, Oxford and New York: Oxford University Press[6]
  • 1986: Hotspur: a ballad, Newcastle upon Tyne: Bloodaxe Books[6] ISBN 978-1-85224-001-1
  • 1986: The Incident Book, Oxford ; New York: Oxford University Press[6]
  • 1988: Meeting the Comet, Newcastle upon Tyne: Bloodaxe Books[6]
  • 1991: Time-zones, Oxford and New York: Oxford University Press[6]
  • 1997: Looking Back, Oxford and Auckland: Oxford University Press[6]
  • 2000: Poems 1960–2000, Newcastle upon Tyne: Bloodaxe Books[6] ISBN 978-1-85224-530-6
  • 2010: Dragon Talk, Newcastle upon Tyne: Bloodaxe Books [7] ISBN 978-1-85224-878-9
  • 2013: Glass Wings, Tarset: Bloodaxe Books and Wellington, NZ: Victoria University Press.[8]
  • 2014: The Land Ballot, Wellington, NZ: Victoria University Press, Tarset: Bloodaxe Books.[8]
  • 2017: Hoard, Wellington, NZ: Victoria University Press, Hexham: Bloodaxe Books.[9]
Fel golygydd neu gyfieithydd
  • 1982: Editor, Oxford Book of Contemporary New Zealand Poetry, Auckland: Oxford University Press[6]
  • 1983: Translator, The Virgin and the Nightingale: Medieval Latin poems, Newcastle upon Tyne: Bloodaxe Books,[6] ISBN 978-0-906427-55-2
  • 1987: Editor, Faber Book of 20th Century Women's Poetry, London and Boston: Faber and Faber[6]
  • 1989: Translator, Orient Express: Poems. Grete Tartler, Oxford and New York: Oxford University Press[6]
  • 1992: Translator, Letters from Darkness: Poems, Daniela Crasnaru, Oxford: Oxford University Press[6]
  • 1994: Translator and editor, Hugh Primas and the Archpoet, Cambridge, England, and New York: Cambridge University Press[6]
  • 1995: Editor (with Jacqueline Simms), The Oxford Book of Creatures, verse and prose anthology, Oxford: Oxford University Press[6]

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth am rai blynyddoedd. [10]

Anrhydeddau a gwobrau[golygu | golygu cod]

  • 1961: Gwobr Gwyl Farddoniaeth Wellington[7]
  • 1964: New Zealand State Literary Fund Award[7]
  • 1968: Buckland Award (Seland Newydd)[7]
  • 1968: Jessie Mackay Prize (Seland Newydd)[7]
  • 1972: Jessie Mackay Prize (Seland Newydd)[7]
  • 1976: Cholmondeley Award (y DU)[7]
  • 1979: Buckland Award (Seland Newydd)[7]
  • 1984: New Zealand National Book Award[7]
  • 1984: Cymrawd o'r Royal Society of Literature[11]
  • 1988: Arts Council Writers' Award (y DU)[7]
  • 1996: OBE[7]
  • 2006: Queen's Gold Medal for Poetry (y DU)[7]
  • 2008: Urdd Teilyngdod Seland Newydd, am wasanaeth i Lenyddiaeth.[12]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Fleur Adcock – Poetry Archive Biog[dolen marw]
  2. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb121970841. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://libris.kb.se/katalogisering/ljx15lx402g0z3c. LIBRIS. dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018. dyddiad cyhoeddi: 7 Ionawr 2013.
  3. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb121970841. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Dyddiad geni: "Fleur Adcock". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Fleur Adcock". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Fleur Adcock". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Fleur Adcock". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Kareen Fleur Adcock". "Fleur Adcock".
  5. Brown, Susan, Patricia Clements, and Isobel Grundy, eds. Results of Chronologies query on Adcock, Fleur within tag Name within all event types, with most comprehensive selectivity, for 0612--BC to 2018-11-28AD, long form results within Orlando: Women's Writing in the British Isles from the Beginnings to the Present. Cambridge: Cambridge University Press Online, 2006. http://orlando.cambridge.org/. 28 Tachwedd 2018.
  6. 6.00 6.01 6.02 6.03 6.04 6.05 6.06 6.07 6.08 6.09 6.10 6.11 6.12 6.13 6.14 6.15 6.16 6.17 6.18 6.19 "Fleur Adcock" Archifwyd 21 December 2006[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback. at the University of Auckland Library website, accessed 26 April 2008
  7. 7.00 7.01 7.02 7.03 7.04 7.05 7.06 7.07 7.08 7.09 7.10 7.11 Web page titled "Fleur Adcock" Archifwyd 9 October 2009[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback. at the "British Council / Contemporary Writers in the UK website, adalwyd 26 Ebrill 2008
  8. 8.0 8.1 at The Poetry Library website, accessed 10 December, 2016
  9. at The Poetry Library website, accessed 16 January, 2018
  10. Anrhydeddau: https://www.anzliterature.com/fellows/. https://creativenz.govt.nz/Funds-and-opportunities/Results/Award-winners/Prime-Ministers-Awards-for-literary-achievement.
  11. "Current RSL Fellows". Adalwyd 2016.
  12. "Queen's Birthday Honours 2008". Department of the Prime Minister and Cabinet. 2 Mehefin 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mehefin 2008. Cyrchwyd 2 Mehefin 2008. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)