Fitiligo

Oddi ar Wicipedia
Fitiligo
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathclefyd hunanimíwn, autoimmune skin disease, clefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Enghraifft o fitiligo

Mae Fitiligo yn gyflwr hir-dymor sy'n effeithio ar y croen ac sy'n cael ei nodweddu gan ddarnau o'r croen yn colli eu pigment. Mae'r darnau o groen sy'n cael eu heffeithio yn troi'n wyn ac mae ganddyn nhw fel arfer ymylon pendant. Gall y gwallt o'r croen hefyd droi'n wyn, ac mae'n bosib iddo effeithio ar y fewn y tu fewn i'r ceg a'r trwyn hefyd.[1] Fel arfer mae dwy ochr y corff yn cael eu heffeithio gan y cyflwr, ac i'w weld yn gyntaf ar ddarnau o groen sydd yn agored i'r haul. Mae'n fwy amlwg i'w weld pan fo'r lliw croen yn dywyll. Gall fitiligo arwain at straen seicolegol a gall rhai pobl sy'n cael eu heffeithio yn cael eu trin yn israddol.

Nid yw union achos fitiligo yn hysbys.[2] Credir ei fod o ganlyniad i ragdueddiad genetig sy'n cael ei achosi gan ffactor amgylcheddol fel bod clefyd hunanimíwn yn digwydd. Canlyniad hyn yw dinistr celloedd pigment y croen. Mae ffadtorau risg yn cynnwys hanes o'r cyflwr yn y teulu, neu hanes o glefydau hunanimíwn eraill, fel hyperthyroidedd, clwy'r llwynog, ac anemia dinistriol. Nid yw'n heintus.[3] Mae fitiligo yn cael ei ddosbarthu yn ddau brif fath: cylchrannol ac an-gylchrannol. Mae'r rhan fwyaf o achosion yn an-gylchrannol, sy'n golygu eu bod yn effeithio ar y ddwy ochr; ac yn yr achosion hyn, mae'r rhannau o'r croen sydd wedi'u heffeithio yn tyfu gydag amser. Mae tua 10% o achosion yn gylchrannol, sy'n golygu bod y cyflwr yn effeithio ar un ochr o'r corff yn unig; ac yn yr achosion hyn, nid yw'r ardal sydd wedi'i heffeithio yn ymestyn gydag amser. Mae diagnosis fel arfer yn cael ei gadarnhau gyda biopsi o'r meinwe.

Enghraifft o fitiligo

Nid oes triniaeth sy'n arwain at iachâd llwyr o fitiligo. I'r rhai hynny sydd a chroen lliw golau, yr unig argymhellion yw eu bod yn defnyddio eli haul a chosmetigau. Gall triniaethau eraill gynnwys hufenau steroid neu fffototherapi i dywyllu'r darnau golau. Ceir hefyd enghreifftiau o ymgeisiau i oleuo'r croen nad yw wedi'i effeithio gyda hydroquinone er mwyn rhoi cysondeb lliw. Mae nifer o opsiynau meddygol ar gael os nad yw'r mesurau uchod yn cael eu defnyddio neu eu bod yn aneffeithiol, ac mae'r canyniadau gorau fel arfer i'w gweld pan defnyddir cyfuniad o driniaethau. Gall cwnsela i ddarparu cefnogaeth emosiynol hefyd fod o gymorth.

Mae tua 1% o bobl yn cael eu heffeithio gan fitiligo.[4] Mae gan rai poblogaethau gyfraddau mor uchel a 2–3%.[5] Nid yw'r cyfraddau yn wahanol rhwng dynion a menywod. Mae tua hanner o'r bobl sy'n cael eu heffeithio gan y cyflwr yn dangos arwyddion cyntaf ohono cyn eu bod yn 20 oed ac mae'n datblygu cyn iddynt gyrraedd 40 oed. Mae enghreifftiau o fitiligo yn mynd yn ôl i ddyddiau'r henfyd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Questions and Answers about Vitiligo". NIAMS. June 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 August 2016. Cyrchwyd 11 August 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Ezzedine, K; Eleftheriadou, V; Whitton, M; van Geel, N (4 July 2015). "Vitiligo.". Lancet 386 (9988): 74–84. doi:10.1016/s0140-6736(14)60763-7. PMID 25596811.
  3. Chopra, Parul; Niyogi, Rageshree; Katyal, Gauri (2009). Skin and Hair Care: Your Questions Answered (yn Saesneg). Byword Books Private Limited. t. 2. ISBN 9788181930378.
  4. Whitton, M; Pinart, M; Batchelor, JM; Leonardi-Bee, J; Gonzalez, U; Jiyad, Z; Eleftheriadou, V; Ezzedine, K (May 2016). "Evidence-based management of vitiligo: summary of a Cochrane systematic review.". The British Journal of Dermatology 174 (5): 962–9. doi:10.1111/bjd.14356. PMID 26686510.
  5. Krüger C; Schallreuter KU (October 2012). "A review of the worldwide prevalence of vitiligo in children/adolescents and adults". Int J Dermatol 51 (10): 1206–12. doi:10.1111/j.1365-4632.2011.05377.x. PMID 22458952.