Alopecia areata

Oddi ar Wicipedia
Alopecia areata
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathalopecia, clefyd hunanimíwn, autoimmune skin disease Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae clefyd lledfoelni neu Alopecia areata (Saesneg) yn gyflwr lle collir gwallt mewn rhai mannau, neu ym mhob rhan o'r corff. Yn aml iawn achosa ofodau moel ar greon y pen, ac y mae'r rhain fel arfer oddeutu maint darn arian. Gall straen seicolegol achosi'r cyflwr. Fel arall, mae dioddefwyr yn iach. Mewn rhai achosion collir gwallt croen y pen i gyd ynghyd â holl wallt y corff, a gall y colledion hynny fod yn barhaol.

Credir bod clefyd lledfoelni yn afiechyd hunanimíwn. Mae ffactorau risg yn cynnwys hanes teuluol o'r cyflwr. Ymhlith efeilliaid unwy, os effeithir un gan y cyflwr, mae'r naill 50% yn debygol o'i heffeithio hefyd. Ym mecanwaith sylfaenol yr afiechyd y mae'r corff yn methu a chydnabod ei gelloedd ei hun ac o ganlyniad cyflwyna broses imiwnedd sy'n dinistrio ffoligl gwallt..[1]

Ni cheir triniaeth effeithiol sy'n gwella'r cyflwr. Gellir ymdrechu i gyflymu'r broses ail-dyfu drwy gynnal rhaglen o bigiadau cortison. Caiff dioddefwyr eu hargymell i ddefnyddio eli haul, gorchuddion ar gyfer y pen er mwyn ei warchod rhag yr oerfel a'r haul, ynghyd â gwisgo sbectol, os effeithir blew'r amrannau. Mewn rhai achosion, y mae'r gwallt yn ail tyfu ac nid yw'r cyflwr yn dychwelyd. Ceir enghreifftiau eraill lle nad yw'r gwallt colledig yn ymddangos dros lawer o flynyddoedd.

Dioddefa oddeutu 2% o boblogaeth yr Unol Daleithiau'r cyflwr. Fel arfer y mae symptomau'n ymddangos yn ystod cyfnod plentyndod. Mae'r clefyd yr un mor debygol ymysg dynion a menywod. Ni effeithir amser byw unigolyn gan yr afiechyd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Liaison, Ray Fleming, Office of Communications and Public (May 2016). "Questions and Answers About Alopecia Areata". NIAMS (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 July 2017. Cyrchwyd 10 July 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)