Fifty Shades of Grey
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | E. L. James |
Cyhoeddwr | The Writer's Coffee Shop |
Gwlad | Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 20 Mehefin 2011 |
ISBN | ISBN 978-1612130286 |
Genre | erotic romance novel, BDSM-themed literature, dark romance novel |
Cyfres | Fifty Shades |
Olynwyd gan | Fifty Shades Darker |
Cymeriadau | Anastasia Steele |
Lleoliad cyhoeddi | y Deyrnas Unedig |
Lleoliad y gwaith | Unol Daleithiau America, Seattle |
Gwefan | https://eljamesauthor.com/books/fifty-shades-of-grey/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Nofel erotig a gyhoeddwyd gan yr awdur Prydeinig E. L. James yn 2011 ydy Fifty Shades of Grey. Lleolir y mwyafrif o'r nofel yn Seattle, a dyma yw'r rhan gyntaf o dair nofel sy'n olrhain hanes y berthynas rhwng myfyriwr graddedig, Anastasia Steele, gyda gŵr busnes ifanc, Christian Grey. Mae'r nofel yn adnabyddus am ei golygfeydd o natur rywiol sy'n cynnwys elfennau o BDSM.
Enwyd yr ail a'r drydedd nofel yn Fifty Shades Darker a Fifty Shades Freed. Cyrhaeddodd Fifty Shades of Grey frig y siart lyfrau yn yr Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig a ledled y byd.[1][2] Mae'r gyfres wedi gwerthu tua deng miliwn o gopïau yn fyd eang, gyda hawliau'r llyfrau wedi'u gwerthu mewn 37 gwlad.[3]
Bydd Kelly Marcel yn sgriptio addasiad ffilm o'r nofel.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ EL James' Fifty Shades of Grey tops New York Times list (31 Mai 2012).
- ↑ Erotic book Fifty Shades Of Grey becomes UK bestseller. BBC (31 Mai 2012).
- ↑ 10 Million Shades of Green: Erotic Trilogy Dominates Book Sales. New York Times.
- ↑ (Saesneg) Terra Nova creator to write Fifty Shades screenplay. BBC (9 Hydref 2012). Adalwyd ar 10 Hydref 2012.