Ffynnon Oer
Mae Ffynnon Oer wedi ei lleoli ym mhentref Llanddona ar Ynys Môn.
Lleoliad[golygu | golygu cod]
Nid oes lleoliad pendant i’r ffynnon ond yn ôl hanesion lleol yn fan hyn roedd gwrachod Llanddona yn defnyddio'r ffynnon pan fyddent yn rheibio. Dyma rigwm roedden nhw yn ei siantio ger y ffynnon pan oedden nhw'n ymgasglu ac yn melltithio’u gelynion:
Crwydro y byddo am oesoedd lawer.
- Ac ym mhob cam, camfa,
- Ym mhob camfa, codwm;
- Ym mhob codwm torri asgwrn
- Nid yr asgwrn mwyaf na’r lleiaf
- Ond asgwrn chwil corn ei wddw.[1]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Ffynhonnau Cymru - Cyfrol 2 - Ffynhonnau Caernarfon, Dinbych, Y Fflint a Môn (Llyfrau Llafar Gwlad 43)