Philippe VI, brenin Ffrainc
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Ffylip VI, brenin Ffrainc)
| Philippe VI, brenin Ffrainc | |
|---|---|
| Ganwyd | 17 Tachwedd 1293 Fontainebleau |
| Bu farw | 22 Awst 1350 o y pla Reims |
| Dinasyddiaeth | Ffrainc |
| Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
| Swydd | brenin Ffrainc, cownt Angyw |
| Tad | Siarl o Valois |
| Mam | Margaret |
| Priod | Blanche of Navarre, Queen of France, Joan of Burgundy |
| Partner | Béatrice de la Berruère |
| Plant | Joan of Valois, Jean II, brenin Ffrainc, Philip of Valois, Duke of Orléans |
| Perthnasau | Siarl IV |
| Llinach | teulu'r Valois |
Brenin Ffrainc o 1328 hyd ei farw oedd Philippe VI neu Philip VI (Philippe de Valois) (1293 – 22 Awst 1350). Mab Charles de Valois, a'i wraig Marguerite d'Anjou, oedd Philippe. Cafodd y llysenw "Le Fortuné" ("Y Ffodus").
Yn 1328, bu farw Charles IV, heb adael mab. Roedd hyn yn golygu diwedd llinach uniongyrchol y brenhinoedd Capetaidd. Roedd yn ansicr pwy oedd a hawl i'r goron; ymhlith yr hawlwyr roedd Edward III, brenin Lloegr. Penderfyniad uchelwyr Ffrainc oedd coroni Philip o Valois, oedd o linach arall o'r Capetiaid, a ddaeth yn frenin fel Philip VI, y cyntaf o Frenhinllin Valois. Yn 1337 cyhoeddodd Edward III mai ef oedd gwir frenin Ffrainc a dehcreuodd Y Rhyfel Can Mlynedd.
Teulu
[golygu | golygu cod]Gwragedd
[golygu | golygu cod]- Jeanne la Boiteuse (1313–1348) (Jeanne de Bourgogne, "Y ferch fethedig")
- Blanche d'Évreux (1350)
Plant
[golygu | golygu cod]- Ioan II (26 Ebrill 1319 – 8 Ebrill 1364), brenin Ffrainc 1350–1364
- Marie (1326–1333), gwraig Jean de Brabant
- Louis (17 Ionawr 1328 – 17 Ionawr 1328)
- Louis (8 Mehefin 1330 – 23 Mehefin 1330)
- Jean (1333–1333)
- Philippe de Valois (1336–1375)
- Jeanne (1337–1337)
- Jeanne (1351–1371)
| Rhagflaenydd: Charles IV |
Brenin Ffrainc 1 Ebrill 1328 – 22 Awst 1350 |
Olynydd: Ioan II |