Ffrwydrad Charsadda, 2011
Gwedd
| Enghraifft o: | hunanfomio mewn car |
|---|---|
| Dyddiad | 13 Mai 2011 |
| Lladdwyd | 98 |
| Lleoliad | Charsadda District |
![]() | |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0gtv5qt |

Ymosodiad terfysgol yng nghaer Shabqadar yn Ardal Charsadda, Khyber Pakhtunkhwa, Pacistan, oedd ffrwydrad 2011 Charsadda. Bu farw o leiaf 80 o gadetiaid pan chwythodd hunan-fomiwr ei hunan i fyny gyda dau fom mewn canolfan hyfforddi Heddlu'r Ffin am 6 y bore amser lleol, 13 Mai 2011.[1] Anafwyd o leiaf 150 o bobl eraill.
Hawliodd Tehrik-i-Taliban Pakistan gyfrifoldeb dros y ffrwydrad, gan honni ei fod yn ddial am farwolaeth Osama bin Laden ar ddechrau'r mis.[2] Credir rhai swyddogion lleol y gall yr ymosodiad fod yn ymateb i weithredoedd Byddin Pacistan yn erbyn brwydrwyr y Taleban ar y ffin ag Affganistan yn hytrach na dial am bin Laden.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 (Saesneg) Perlez, Jane (13 Mai 2011). Questions of Motives in Bombing in Pakistan. The New York Times. Adalwyd ar 17 Rhagfyr 2012.
- ↑ (Saesneg) Pakistan bombings: Taliban admits Shabqadar attacks. BBC (13 Mai 2012). Adalwyd ar 17 Rhagfyr 2012.
