Ffrwydrad Bishopsgate

Oddi ar Wicipedia
Ffrwydrad Bishopsgate
Enghraifft o'r canlynolbom mewn cerbyd Edit this on Wikidata
Dyddiad24 Ebrill 1993 Edit this on Wikidata
LladdwydEdit this on Wikidata
Rhan oyr Helyntion Edit this on Wikidata
LleoliadBishopsgate Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthDinas Llundain Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Difrod i adeilad 99 Bishopsgate yn sgil y ffrwydrad, pob un o'i ffenestri wedi eu chwalu'n ddarnau.

Ymosodiad terfysgol gan Fyddin Weriniaethol Dros Dro Iwerddon (PIRA) ar Ddinas Llundain oedd ffrwydrad Bishopsgate ar 24 Ebrill 1993. Ffrwydrodd y bom mewn lori yn Bishopsgate, un o brif ffyrdd trwodd y Ddinas. Bu farw un ac anafwyd 44 o bobl, ac achoswyd £350 miliwn o ddifrod.[1]

Cafodd y bom, a oedd yn cynnwys un dunnell o ffrwydron, ei osod mewn lori godi a gafodd ei chipio gan y PIRA a'i pharcio tu allan i adeilad HSBC yn 99 Bishopsgate, ger cyffordd Bishopsgate a Wormwood Street. Un awr cyn i'r bom ffrwydro, defnyddiwyd ciosg ffôn yn Forkhill, Swydd Armagh naw gwaith i rybuddio'r heddlu, a dechreuwyd symud pobl o'r ardal.[2] Ffrwydrodd y bom, a wnaed o amoniwm nitrad a thanwydd, am 10:27 o'r gloch y bore. Lladdwyd ffotograffydd i'r News of the World, Edward Henty, a anwybyddodd y gorchymyn i adael yr ardal.[3] Difrodwyd adeiladau o fewn 500 o lathenni, gan gynnwys Tŵr NatWest a gorsaf reilffordd Liverpool Street, a dinistriwyd Eglwys y Santes Ethelburga yn llwyr.[1]

Mewn ymateb i'r ymosodiad hwn, a ffrwydrad arall yn St Mary Axe yn Ebrill 1992, adeiladwyd system diogelwch o'r enw "cylch dur" (yn swyddogol y Parth Traffig ac Amgylcheddol) o amgylch Dinas Llundain.[1] Newidiwyd y mwyafrif o ffyrdd y Ddinas yn allanfeydd yn unig, a rhoddwyd heddweision ar bob un ffordd arall i mewn i'r Ddinas am bob awr o'r dydd.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Jo Davy, "The Bishopsgate bomb: 25 years on", City Matters (24 Ebrill 2018). Adalwyd ar 5 Mawrth 2021.
  2. Toby Harnden, 'Bandit Country': The IRA and South Armagh (Llundain: Hodder & Stoughton, 1999), tt. 337–8.
  3. (Saesneg) Andrew Gliniecki, "The Bishopsgate Bomb: Toll of injured rises to 51[dolen marw]", The Independent (25 Ebrill 1993). Adalwyd ar 5 Mawrth 2021.
  4. (Saesneg) "Bishopsgate bomb: Photos issued on 25th anniversary", BBC (24 Ebrill 2018). Adalwyd ar 5 Mawrth 2021.