Fframwaith Rhyngweithredadwyedd Delweddau Rhyngwladol (IIIF)

Oddi ar Wicipedia
Logo IIIF

Mae'r Fframwaith Rhyngweithredadwyedd Delweddau Rhyngwladol (sy'n cael ei adnabod fel IIIF, sef talfyriad o'r Saesneg: International Image Interoperability Framework) yn diffinio llawer o rhyngwynebau rhaglennu cymwysiadau (sy'n cael ei adnabod fel API, sef talfyriad o'r Saesneg: application programming interfaces neu 'API') sy'n darparu dull safonol o ddisgrifio a chyflwyno delweddau dros y we, ynghyd â "metadata ar gyfer cyflwyno" (metadata strwythurol, hynny yw)[1] am gyfresi strwythuredig o ddelweddau. Os yw sefydliadau sy'n dal gweithiau celf, llyfrau, papurau newydd, llawysgrifau, mapiau, sgroliau, casgliadau un ddalen, a deunydd archifol yn darparu diweddbwyntiau IIIF ar gyfer eu cynnwys, gall unrhyw syllwr sy'n cydsynio â IIIF dreulio ac arddangos delweddau a'u metadata strwythurol a chyflwyno.

Mae nifer o raglenni digido wedi arwain at gasgliad yn cael eu cyflwyno ar y we gna ddefnyddio syllwyr penodol,[2] ond nid yw'r casgliadau hyn o reidrwydd wedi bod yn rhyngweithredadwy gyda chasgliadau eraill,[3] ac nid yw defnyddwyr na sefydliadau yn gallu cyfnewid syllwr am un arall sydd o bosib yn fwy addas i'w dibenion. Mae'r fframwaith hon yn ceisio meithrin technolegau ar y cyd i'r cleient a'r gweinydd er mwyn galluogi rhyngweithredadwyedd ar draws cadwrfeydd, ac i hybu marchnad mewn gweinyddion a syllwyr sy'n cydsynio a'r fframwaith.[4]

API Delweddau[golygu | golygu cod]

Mae'r API Delweddau yn dynodi gwasanaeth gwe sy'n cyflwyno delweddau mewn ymateb i gais HTTP neu HTTPS. Mae'r URI yn gallu pennu ardal, maint, cylchdro ac ansawdd y ddelwedd. Gellir defnyddio URI hefyd i wneud cais am wybodaeth dechnegol am y ddelwedd.[5]

API Cyflwyno[golygu | golygu cod]

Mae'r API Cyflwyno yn dynodi gwasanaeth gwe sy'n dychwelyd dogfennau strwythuredig JSON-LD sy'n disgrifio strwythur a chynllun yr eitem digidol neu gasgliad o ddelweddau a chynnwys perthnasol.[6]

Cyhoeddir maniffest (dogfen JSON-LD) sy'n disgrifio'r eitem digidol ac yn cynnwys cyfeiriadau at ddiweddbwyntiau API delwedd. Mae syllwr yn defnyddio'r maniffest er mwyn rhoi profiad ystyrlon i'r defnyddiwr trwy, er enghraifft, roi tudalennau mewn trefn, alluogi chwyddo delweddau neu weld anodiadau ar yr eitem.

API Chwilio[golygu | golygu cod]

Mae'r API Chwilio yn galluogi i gynnwys anodiadol gael ei chwilio o fewn i adnodd IIIF.[7]

Enghraifft o ddefnydd[golygu | golygu cod]

Mae llawysgrif wedi'i dynnu'n ddarnau a bellach wedi'i gwasgaru ar draws sawl casgliad.[8] Os yw pob casgliad yn rhoi mynediad i'w delweddau digidol gan ddefnyddio'r API Delweddau, yna gellir adeiladu a chyhoeddi maniffest sy'n cyfuno'r tudalennau i roi profiad ystyrlon i ddefnyddwyr mewn unrhyw syllwr IIIF.

Hanes[golygu | golygu cod]

Cynigiwyd yr API Delweddau ar ddiwedd 2011 trwy gydweithio rhwng Y Llyfrgell Brydeinig, Prifysgol Stanford, Llyfrgelloedd Bodleian (Prifysgol Rhydychen), Bibliothèque nationale de France, Nasjonalbiblioteket (Llyfrgell Genedlaethol Norwy), Llyfrgell Ymchwil Genedlaethol Los Alamos, a Phrifysgol Cornell.[9] Cyhoeddwyd Fersiwn 1.0 yn 2012.

Cyhoeddwyd Fersiwn 1.0 o'r API Cyflwyno yn 2013 a'r API Chwilio yn 2016.Cyhoeddodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Rhagfyr 2017 ei bod wedi ymuno â Chonsortiwm IIIF (IIIF-C).[10] Roedd y Llyfrgell ymhlith y sefydliadau cyntaf i fabwysiadau IIIF, ac fe'i defnyddiwyd ar y prosiect Papurau Newydd Cymru Ar-lein a lawnsiwyd yn 2013 a hefyd ar gyfer prosiect Cynefin. Mae'r Llyfrgell hefyd wedi datblygu llwyfan torfoli dwyieithog sy'n seiliedig ar IIIF.

Rhestr rannol o feddalwedd sy'n cefnogi IIIF[golygu | golygu cod]

Gweinyddion delweddau[golygu | golygu cod]

Syllwyr / llyfrgelloedd cleient[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Technical Details — IIIF - International Image Interoperability Framework". Cyrchwyd 9 Tachwedd 2016.
  2. "Medieval Manuscripts on the Web (digitized manuscripts)". Cyrchwyd 9 Tachwedd 2016.
  3. "Presentation on "Transcending Silos" at 2012 Digital Library Federation Forum". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-02. Cyrchwyd 2018-07-31.
  4. "Redirecting…". Cyrchwyd 9 Tachwedd 2016.
  5. "Image API 2.1 — IIIF - International Image Interoperability Framework". Cyrchwyd 9 Tachwedd 2016.
  6. "Presentation API 2.0 — IIIF - International Image Interoperability Framework". Cyrchwyd 9 Tachwedd 2016.
  7. "IIIF Content Search API 1.0 — IIIF - International Image Interoperability Framework". Cyrchwyd 9 Tachwedd 2016.
  8. "Scattered Leaves". 6 Ionawr 2014. Cyrchwyd 9 Tachwedd 2016.
  9. "The International Image Interoperability Framework (IIIF): Laying the Foundation for Common Services, Integrated Resources and a Marketplace of Tools for Scholars Worldwide". 8 Rhagfyr 2011. Cyrchwyd 9 Tachwedd 2016.
  10. "Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ymuno â'r IIIF-C". www.llyfrgell.cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-29. Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2018.
  11. "loris-imageserver/loris". Cyrchwyd 9 Tachwedd 2016.
  12. Pillay, Ruven. "IIPImage". Cyrchwyd 9 Tachwedd 2016.
  13. "digilib - The Digital Image Library –". Cyrchwyd 9 Tachwedd 2016.
  14. "jronallo/djatoka". Cyrchwyd 9 Tachwedd 2016.
  15. "OpenSeadragon". Cyrchwyd 9 Tachwedd 2016.
  16. "ProjectMirador/mirador". Cyrchwyd 9 Tachwedd 2016.
  17. "Digirati - Wellcome Player". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-22. Cyrchwyd 9 Tachwedd 2016.
  18. "UniversalViewer/universalviewer". Cyrchwyd 9 Tachwedd 2016.
  19. "IIIF for images in cultural heritage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-11-10. Cyrchwyd 9 Tachwedd 2016.
  20. "mejackreed/Leaflet-IIIF". Cyrchwyd 9 Tachwedd 2016.
  21. "ruven/iipmooviewer". Cyrchwyd 9 Tachwedd 2016.
  22. "armadillo-systems/inquire". Cyrchwyd 3 Chwefror 2017.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]