Fformiwla empirig

Oddi ar Wicipedia

Mewn cemeg, y cymhareb symlaf o'r nifer o atomau mewn cyfansoddyn ydy'r fformiwla empirig[1]. Er enghraifft, byddai'r fformiwla empirig hydrogen perocsid (H2O2) yn HO.

Mewn cyferbyniad, mae'r fformiwla foleciwlaidd yn dangos y nifer o bob atom mewn cyfansoddyn. H2O2 ydy'r fformiwla foleciwlaidd hydrogen perocsid gan fod 'na ddau atom ocsigen a dau atom hydrogen yn y moleciwl.

Yn cyfrifo'r fformiwla empirig[golygu | golygu cod]

Os dych chi'n gwybod y cyfansoddiad màs o ryw cyfansoddyn allwch chi gyfrifo ei fformiwla empirig trwy dilyn y camau hyn.

Cam 1: Rhannwch bob màs (neu'r canran màs) â'r rhif atomig o bob elfen.
Cam 2: Cyfrifwch y cymarebau rhif cyfan symlaf gan rhannu pob canlyniad o gam 1 â'r rhif lleia.
Cam 3: Os oes 'na un canlyniad o gam 2 sydd ddim yn rhif cyfan, lluoswch bob canlyniad â un rhif priodol er mwyn gwneud pob rhif yn rhif cyfan.

Enghraifft[golygu | golygu cod]

Dychmygwch eich bod chi wedi ei ddadansoddi cyfansoddyn mewn labordy. Mae'r canlyniadau yn dangos bod 'na 48.64% carbon, 8.16% hydrogen a 43.2% ocsigen ynddo. Gan defnyddio'r wybodaeth hon a thrwy dilyn y camau uchod, allwch chi gyfrifo'r fformiwla empirig.

Cam 1:
Carbon :
Hydrogen :
Ocsigen :
Cam 2:
Carbon :
Hydrogen :
Ocsigen :
Felly, 1.5:3:1 ydy'r cymareb carbon:hydrogen:ocsigen. Gan fod 1.5 ddim yn rhif cyfan, rhaid i chi luosi'r canlyniadau o'r cam hwn â rhif cyfan.
Cam 3:
Carbon :
Hydrogen :
Ocsigen :
Felly, 3:6:2 ydy'r cymareb rhif cyfan symlaf o carbon:hydrogen:ocsigen. Mae hyn yn golygu taw C3H6O2 ydy'r fformiwla empirig y cyfansoddyn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. International Union of Pure and Applied Chemistry|IUPAC, Compendium of Chemical Terminology, ail argraffiad ("Gold Book") (1997). Ceir fersiwn wedi'i gywiro, arlein ar:  (2006–) "Empirical formula".
Eginyn erthygl sydd uchod am gemeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.