Fflamio

Oddi ar Wicipedia
Fflamio
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurAnn Pierce Jones
CyhoeddwrGwasg Gomer
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddiAwst 1999 Edit this on Wikidata
Argaeleddallan o brint
ISBN9781859027097
Tudalennau244 Edit this on Wikidata
GenreNofelau Cymraeg

Nofel gan Ann Pierce Jones yw Fflamio a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 1999. Gwasg Gomer a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 1999. Yn 2013 roedd y gyfrol allan o brint.[1]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Nofel yn portreadu gwraig a mam ifanc wrth iddi chwilio am gymorth i wynebu dirywiad yn ei phriodas ac ofn y gallai gam-drin ei merch.

Camdrin gorfforol plant yw ei phrif thema. Mae'n nofel realaidd sydd hefyd yn trafod priodasau cymysg eu hil. Un is-thema yw cadw Cymreictod yn Lloegr - sy'n deillio o brofiad yr awdures tra'n magu ei phlant yn Llundain. Athrawes ac Ymgynghorydd Addysg yn Ne Llundain yw'r awdur.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013