Fflach adnabod tactegol
Gwedd
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/41/Rifles_TRF.svg/140px-Rifles_TRF.svg.png)
Arwyddnod milwrol a wisgir gan y Lluoedd Arfog Prydeinig a'r lluoedd milwrol mewn nifer o wledydd y Gymanwlad yw fflach adnabod tactegol (Saesneg: tactial recognition flash; TRF). Brethyn llachar yw'r fflach a wisgir gan amlaf ar ran uchaf y llawes ac weithiau ar het faes. Ei phwrpas yw i ddynodi gwasanaeth neu uned y gwisgwr, hyd at lefel gatrodol. Adnabyddir unedau a threfiannau sy'n uwch na chatrawd gan arwydd trefniant.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Rosignoli, Guido. The Illustrated Encyclopedia of Military Insignia of the 20th Century (Llundain, Quarto, 1987), t. 150.