Ffilm acsiwn
Ffilm yn y genre acsiwn yw ffilm acsiwn, hynny yw stori llawn cyffro ac antur sy'n canolbwyntio ar arwr neu'r arwyr yn brwydro'n erbyn dyn drwg.
Gellir ystyried nifer o ffilmiau ysbïo, trosedd, rhyfel, a'r Gorllewin Gwyllt yn ffilmiau acsiwn cynnar. Datblygodd y genre yn y 1970au, yn enwedig gan ffilmiau crefftau ymladd Hong Kong a Japan. Yn y 1980au datblygodd y genre yn yr Unol Daleithiau, gyda sêr megis Arnold Schwarzenegger, Sylvester Stallone, a Bruce Willis. Mae nifer o ffilmiau acsiwn Americanaidd yn enwog am eu llinellau bachog (one-liners).[1] Ym mlynyddoedd diweddar mae ffilmiau archarwyr wedi cymryd lle ffilmiau acsiwn i raddau.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ (Saesneg) Lichtenfeld, Eric (26 Mehefin 2007). Yippee-Ki-Yay ... : The greatest one-liner in movie history. Slate. Adalwyd ar 24 Chwefror 2013.