Evo Morales

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Evo Morales
Evo Morales 2017.jpg
Ganwyd Juan Evo Morales Ayma Edit this on Wikidata
26 Hydref 1959 Edit this on Wikidata
Oruro Edit this on Wikidata
Man preswyl Palacio Quemado Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Bolifia Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Gwleidydd, undebwr llafur Edit this on Wikidata
Swydd President of Bolivia Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Movement for Socialism Edit this on Wikidata
Gwobr/au Grand Officer of the Order of the Condor of the Andes, Grand Cross with diamonds of Order of the Sun of Peru, Gwobr hawliau Dynol Al-Gaddafi, Order of Augusto César Sandino, Allwedd Aur Madrid Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Llofnod
Evo Morales signature.svg

Mae Evo Morales (Juan Evo Morales Ayma - ganwyd 26 Hydref 1959, Isallavi, Bolifia) yn arlywydd Bolifia, y cyntaf erioed o dras frodorol.[1]

Er i fwyafrif bobl Bolifia a miliynau o bobl eraill gwledydd America gyda chefndir tras frodorol, yn dilyn canrifoedd o ragfarn a gormes, prin iawn yw'r bobl gefndir brodorol sydd wedi cyrraedd swyddi uchel.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd mewn pentref mwyngloddio yn nhalaith orllewinol Oruro i deulu o dras Aymara, bu'n fugail llama yn blentyn. Wedi gadael yr ysgol a gwasanaeth milwrol, mudodd ei deulu i ardal Chapare yn nwyrain Bolifia i ffermio. Ymhlith eu cnydau oedd dail coca, cnawd traddodiadol y rhan yno o'r byd ond sydd bellach yn sail i cocaine.

Baner bobloedd frodorol de America

Ar ddechrau'r 1980au daeth Morales yn weithgar yn undeb ffermwyr coca yr ardal, ac ym 1985 fe'i etholwyd yn ysgrifennydd cyffredinol yr undeb.

Tair blynedd yn ddiweddarach fe'i etholwyd yn brif ysgrifennydd ffederasiwn o undebau ffermwyr coca. Er i lawer o ffermwyr tlawd Boliva fod yn ddibynnol ar dyfu dail coca, o dan bwysau'r Unol Daleithiau, roedd llywodraeth Bolifia yn ceisio atal tyfu coca.

Mae llywodraeth yr Unol Daleithiau am atal defnydd o cociane yn ei wlad ond gredai llawer o bobl brodolol de America nad oedd dim byd o'i le gyda dail coca sydd wedi cael eu defnyddio'n halaeth am ganrifoedd fel diod debyg i de ac ar gyfer meddyginiaethau gwerinol. Teimlai'r ffermwyr roeddent gael eu cosbi – y fyddin a'r awdurdodau'n ymosod arnynt, yn llosgi eu caeau ac yn eu carcharu - am chwant dinasyddion yr Unol Daleithiau am gyffuriau.

Llywydd Bolifia[golygu | golygu cod y dudalen]

Evo Morales

Arweiniodd Morales brotestiadau i gefnogi hawliau'r ffermwyr coca a phobl frodorol gan achosi nifer fawr o garchariadau gan yr awdurdodau.

Ym 1995 ffurfiwyd undebau ffermwyr coca Bolifia blaid wleidyddol Movimiento al Socialismo - 'MAS' (y gair Sbaeneg am 'mwy') ac fe'i etholwyd Morales yn arweinydd. Enillodd Morales sedd yn Senedd Bolifia ym 1997.

Arweiniodd Morales a MAS protestiadau yn erbyn codi pris dŵr yn nhref Cochabamba a chynlluniau preifateiddio system nwy Bolifia. Arweiniodd y protestiadau i derfysgodd mawr gyda llawer o bobl Bolifia yn credu roedd eu gwlad dlawd wedi dioddef canrifoedd o ecsploetio ac nad oeddent am bolisïau economaidd neo-rhyddfrydol.

Yn 2002 bu'n ymgeisydd MAS ar gyfer etholiadau arlywydd y wlad gan golli i ymgeisydd plaid asgell dde. Yn ei ymgyrch galwodd Morales am daflu asiantau'r U.S. Drug Enforcement Administration o Folivia. Fe'i gondemniwyd gan lywodraeth yr Unol Daleithiau am annog cam-ddefnydd o gyffuriau a throsedd gan fygwth torri cefnogaeth ariannol i Folivia petai Morales yn ennill.[2]

Yn etholiadau 2005 enillodd Morales yn hawdd gyda 54% o'r bleidlais gan ddod yn arlywydd cyntaf Bolifia o dras frodorol.

Mae llywodraeth Morales wedi addo lleihau tlodi, wedi codi cyfyngiadau ar dyfu coca ac wedi codi trethi ar bobl gyfoethog y wlad. O dan ei arweinyddiaeth mae cyfansoddiad newydd yn datgan bod Bolifia'r wlad plurinacional (aml-genedl) ac mae ieithoedd broodol fel Aymara a Quechua wedi ennill statws swyddogol a lle yn y system addysg.

Cenedlaetholwyd y diwydiannau nwy ac olew a bu ymdrechion i rannu tiroedd ffermio'n fwy cyfartal.[2]

Mae Morales yn wynebu gwrthwynebiad gan bobl gyfoethog a busnes y wlad ac o ardal ddwyreiniol Santa Cruz a geisiodd cynnal refferendwm i ennill mwy o annibyniaeth i'r rhanbarth o'i rheolaeth.

Mae Morales wedi'i feirniadu am erlid gwrthwynebwyr gwleidyddol.

Mae Morales hefyd wedi'i feirniadu am estyn y cyfnod y gallai fod yn arlywydd gan gael ei ail ethol yn 2009 a 2014. O dan hen gyfansoddiad Bolifia roedd rhaid i'r arlywydd ildio i berson newydd ar ddiwedd tymor o bum mlynedd.[2][3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. http://www.britannica.com/biography/Evo-Morales
  2. 2.0 2.1 2.2 http://www.biography.com/people/evo-morales-37952#synopsis
  3. http://www.bbc.co.uk/news/world-latin-america-29530286