Eurostar

Oddi ar Wicipedia
Trên Eurostar yng Ngorsaf St Pancras, Llundain.

Gwasanaeth trên sy'n cysylltu Llundain a Chaint yn Lloegr â Pharis, Lille a Brwsel ar gyfandir Ewrop yw Eurostar. Mae yna wasanaethau ychwanegol i leoliadau eraill yn Ffrainc gan gynnwys Disneyland. Trwy dwnnel y mae'r trennau'n croesi Môr Udd.

Defnyddir cyfres o gerbydau neilltuol â 18 wagen iddynt ar gyfer y gwasanaeth. Maent yn gallu teithio ar gyflymder o hyd at 300 km/h ar hyd rhwydwaith o reilffyrdd cyflymder uchel. Ers i'r gwasanaeth gychwyn ym 1994, gosodwyd cledrau newydd yn Ngwlad Belg (HSL 1) a Lloegr (High Speed 1) i'r un safonau â chledrau'r LGV Nord a ddefnyddiwyd yn wreiddiol yn Ffrainc. Ers cwblhau'r cyfleuster High Speed 1 ar 14 Tachwedd 2007, gorsaf ryngwladol St Pancras yw pen y daith yn Llundain.

Eginyn erthygl sydd uchod am reilffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.