Eurgain ach Maelgwn Gwynedd
Eurgain ach Maelgwn Gwynedd | |
---|---|
Ganwyd | 510 Cymru |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Dydd gŵyl | 29 Mehefin |
Santes o'r 6g oedd Eurgain ach Maelgwn Gwynedd, un o nifer bach o santesau brodorol Gwynedd. Priododd Elidir Mwynfawr a laddwyd mewn brwydr naill yn erbyn ymosodiad o'r gogledd, neu mewn gwrthryfel yn erbyn Maelgwn. Mae fersiwn arall o'r hanes yn dweud yr oedd hi mewn cariad gyda pennaeth Sacsoneg oedd yn ymladd yn erbyn ei thad. Claddwyd hi ar bryncyn ger Rhuddlan.[1]
Cysegriadau[golygu | golygu cod]
Safydlodd Eurgain Llaneurgain yn Sir y Fflint ar ben twmpath cyn-hanesyddol, lle saif hyd heddiw. Cofnodir yr enw Llaneurgan yn 1315 a Llanurgain yn 1566.[2]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Dylid darllen yr erthygl hon ynghyd-destun "Santesau Celtaidd 388-680"