Etholiadau yng Nghanada

Oddi ar Wicipedia

Mae'r erthygl hon, Etholiadau yng Nghanada, yn rhoi gwybodaeth ynglŷn ag etholiadau a chanlyniadau etholiadau yng Nghanada.

Mae gan Senedd Canada (Parliament of Canada neu Parlement du Canada) ddwy siambr. Mae gan Dŷ'r Cyffredin (House of Commons neu Chambre des Communes) 308 o aelodau, wedi'u hethol am gyfnod o bum mlynedd ar ei uchaf mewn etholaethau (Saesneg ridings neu constituencies, Ffrangeg circonscriptions neu comtés) un sedd. Defnyddir system fwyafrifol 'y cyntaf i'r felin' i ethol yr aelodau hyn.

Mae gan y Senedd (Senate neu Sénat) 105 o aelodau wedi'u penodi gan y Governor General ar sail cyngor y prif weinidog.

Adeilad tai'r senedd yn Ottawa

Yn gyffredinol, cynhelir etholiadau naill ai yn yr hydref neu yn y gwanwyn. Mae hyn yn osgoi problemau o ymgyrch gaeaf, pryd mae'n fwy anodd cynnal cyfarfodydd yn yr awyr agored. Mae hefyd yn osgoi problemau'r haf, pryd mae llawer o Ganadiaid ar wyliau. Yn anarferol, cynhaliwyd yr etholiad ffederal diweddaraf ym mis Ionawr (23 Ionawr 2006) am i'r llywodraeth golli pleidlais o hyder ym mis Tachwedd y flwyddyn gynt.

Gellir cynnal is-etholiadau rhwng etholiadau cyffredin, os yw sedd yn dod yn wag. Dewis y prif weinidog yw galw isetholiad neu beidio. Gall y llywodraeth ffederal hefyd cynnal refferenda ar gyfer materion pwysig. Cynhaliwyd y refferendwm diweddaraf yn 1992 ar newidiadau cyfansoddiadol bwriadol yn sgil Cydsyniad Charlottetown. Ambell waith, bydd pwnc neu fater arbenigol yn dominyddu etholiad, ac mi fydd yr etholiadau mewn gwirionedd yn refferendwm. Yr enghraifft ddiweddaraf o hyn oedd etholiad 1988, a ystyrid gan lawer yn refferendwm ar gytundeb masnach rydd â'r Unol Daleithiau.

Cynhaliwyd yr etholiad diweddaraf ar 23 Ionawr 2006. Y canlyniad oedd Tŷ'r Cyffredin crog, a'r Ceidwadwyr fel y blaid fwyaf.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]