Etholiadau yn y Traeth Ifori

Oddi ar Wicipedia
Etholiadau yn y Traeth Ifori
Enghraifft o'r canlynolagweddau o ardal ddaearyddol Edit this on Wikidata
GwladwriaethY Traeth Ifori Edit this on Wikidata

Cynhelir etholiadau cenedlaethol yn y Traeth Ifori i ddewis arlywydd y wlad ac aelodau'r ddeddfwrfa, pob pum mlynedd fel rheol.

Enillodd y Traeth Ifori ei hannibyniaeth ar Ffrainc ym 1960, ac ers hynny cynhelid etholiadau arlywyddol pob pum mlynedd, yn Hydref neu Dachwedd, ac eithrio 2005. O 1960 i 1995 cynhaliwyd hefyd etholiadau seneddol pob pum mlynedd yn Nhachwedd. O ganlyniad i derfysg yn ystod yr etholiad seneddol yn Rhagfyr 2000, gohiriwyd rhai o'r pleidleisio nes Ionawr 2001. Ni chynhaliwyd etholiad seneddol eto nes Rhagfyr 2011, ac yna Rhagfyr 2016 a Mawrth 2021.

Yn ystod 30 mlynedd gyntaf y weriniaeth caniatawyd un blaid yn unig, Plaid Ddemocrataidd y Traeth Ifori (PDCI). Yn y chwech etholiad arlywyddol o 1960 i 1985, Félix Houphouët-Boigny oedd yr unig ymgeisydd, ac er oedd y canlyniad yn rhagderfynedig, bu'r niferoedd a drodd allan i bleidleisio yn uchel iawn. Ym 1990, cynhaliwyd etholiad arlywyddol am y tro cyntaf gyda gwrthwynebydd, Laurent Gbagbo o'r Ffrynt Poblogaidd Iforaidd. Enillodd Houphouët-Boigny unwaith eto, gyda 82% o'r bleidlais. Wedi marwolaeth Houphouët-Boigny ym 1993, fe'i olynwyd yn arlywydd gan Henri Konan Bédié. Yn Hydref 1995, etholwyd Bédié gyda 96% o'r bleidlais, wedi i gefnogwyr y cyn-brif weinidog Alassane Ouattara alw am foicot wedi i'r llywodraeth rhwystro ymgeiswyr eraill. Cafodd Bédié ei ddymchwel gan coup d'état, dan arweiniad y Cadfridog Robert Guéï, yn Rhagfyr 1999; er gwaethaf, cynhaliwyd yr etholiad arlywyddol nesaf yn ôl y drefn, yn Hydref 2000. Hawliodd Guéï fuddugoliaeth serch enillodd ei wrthwynebydd, Laurent Gbagbo, ddwywaith y nifer o bleidleisiau bron. Cafodd Guéï ei ddymchwel yn ei dro gan wrthryfel poblogaidd, ac esgynnodd Gbagbo i'r arlywyddiaeth. Yn sgil y rhyfel cartref cyntaf o 2002 i 2007, gohiriodd Gbago yr etholiad arlywyddol nesaf sawl gwaith, a fe'i cynhaliwyd o'r diwedd yn 2010. Hawliodd Gbago a'i wrthwynebydd, Alassane Ouattara, ill dau fuddugoliaeth, gan sbarduno argyfwng gwleidyddol ac ail ryfel cartref. Wedi i luoedd Ouattara gipio Gbagbo yn Ebrill 2011, cydnabuwyd Ouattara yn enillydd cyfreithlon yr etholiad, a chafodd ei ail-ethol yn 2015[1][2] a 2020.[3][4][5]

Ers annibyniaeth, cynhaliwyd refferendwm ar lefel genedlaethol ddwywaith: yng Ngorffennaf 2000 i gadarnháu newidiadau i'r cyfansoddiad,[6] ac yn Hydref 2016 i sicrhau cydsyniad yr etholwyr i gyfansoddiad newydd.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "Ivory Coast election: Alassane Ouattara wins second term", BBC (28 Hydref 2015). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Chwefror 2024.
  2. (Saesneg) Loucoumane Coulibaly a Joe Bavier, "Ivory Coast's Ouattara secures second term in landslide poll win", Reuters (28 Hydref 2015). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Chwefror 2024.
  3. (Saesneg) "Ivory Coast election: Alassane Ouattara wins amid boycott", BBC (3 Tachwedd 2020). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Chwefror 2024.
  4. (Saesneg) "Ivory Coast president claims landslide win, opposition cries foul", Al Jazeera (3 Tachwedd 2020). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Chwefror 2024.
  5. (Saesneg) Emmanuel Akinwotu, "Ivory Coast president wins third term after opposition boycotts ‘sham’ election", The Guardian (3 Tachwedd 2020). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Chwefror 2024.
  6. (Saesneg) "Ivory Coast votes on new constitution", The Independent (23 Gorffennaf 2000). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Chwefror 2024.
  7. (Saesneg) Joe Bavier, "Ivory Coast approves new constitution, opposition claims fraud", Reuters (2 Tachwedd 2016). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Chwefror 2024.