Etholiad Cyngor Caerdydd, 2012

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Cynhaliwyd etholiad Cyngor Caerdydd 2012 ar ddydd Iau, 3 Mai 2012 i ethol aelodau o Gyngor Caerdydd. Roedd hyn ar yr un diwrnod ac etholiadau lleol arall yn y Deyrnas Gyfunol.

Canlyniadau'r Etholiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Enillodd Llafur reolaeth lawn o'r cyngor oddi wrth y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru, ar ôl ennill 32 sedd.[1] Collodd arweinydd Democrat Rhyddfrydol y cyngor, Rodney Berman, ei sedd o 51 pleidlais ar ôl ailgyfrif ddwywaith,[2] gan gynyddu'r nifer o seddi Llafur i 33. Daeth y cynghorydd Llafur chwedeg un flwydd oedd, Heather Joyce, a gafodd y llysenw 'Supernan' gan y papur lleol, yn arweinydd newydd y cyngor.[3]

Canlyniad Etholiad Lleol Caerdydd 2012
Plaid Seddi Enillion Colliadau Ennill/Colli Net Seddi % Pleidleisiau % Pleidleisiau ±%
  Llafur 46 33 +33 61.3 41.4 101597
  Democratiaid Rhyddfrydol 16 18 -18 21.3 17.3 42594
  Ceidwadwyr 7 1 10 -9 9.3 17.5 43087
  Plaid Cymru 2 4 -4 2.6 12.7 31129
  Annibynnol 4 2 -2 5.3 6.6 16334
  Gwyrdd 0 0 0 = 0.0 3.8 9339
  Plaid Annibyniaeth y DU 0 0 0 = 0.0 0.2 445
  Comiwnydd 0 0 0 = 0.0 0.1 335
  Plaid Gristionogol 0 0 0 = 0.0 0.1 205
  Llafur Sosialaidd 0 0 0 = 0.0 0.0 106

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Cardiff council elections: The story in each ward". Your Cardiff (WalesOnline). 3 May 2012. Cyrchwyd 2012-05-05.
  2. "Cardiff council's Rodney Berman toppled in cull of leaders". BBC News. 4 May 2012. Cyrchwyd 2012-05-05.
  3. Shipton, Martin (5 May 2012). "Supernan Leads Labour Victory". South Wales Echo. t. 1,4.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]