Esztergom

Oddi ar Wicipedia
Esztergom
Trem ar ardal Víziváros, gyda Thŵr Gwyn Castell Esztergom ar ochr dde'r llun.
Mathcity with county rights Edit this on Wikidata
Hu-Esztergom.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth28,680 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCET, UTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Maintal, Espoo, Štúrovo, Bamberg, Cambrai, Ehingen, Gniezno, Mariazell, Caergaint Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirEsztergom District Edit this on Wikidata
GwladBaner Hwngari Hwngari
Arwynebedd10,010 ha Edit this on Wikidata
Uwch y môr105 ±1 metr, 160 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Donaw Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaPilismarót, Pilisszentkereszt, Piliscsév, Kesztölc, Dorog, Tokodaltáró, Tokod, Tát, Chľaba, Kamenica nad Hronom, Štúrovo, Obid Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47.7856°N 18.7403°E Edit this on Wikidata
Cod post2500–2509 Edit this on Wikidata
Map

Dinas a phorthladd afon yng ngogledd-orllewin Hwngari yw Esztergom (Almaeneg: Gran, Lladin: Solva neu Strigonium, Slofaceg: Ostrihom). Saif ar lannau Afon Donaw, ar y ffin rhwng Hwngari a Slofacia, 46 km (29 mi) i ogledd-orllewin y brifddinas Bwdapest. Lleolir ar ben gorllewinol y dyffryn rhwng bryniau Pilis a Börzsöny, sydd yn rhannu Gwastadedd Bach Hwngari o Wastadedd Mawr Hwngari.[1]

Sefydlwyd yr anheddiad Magyaraidd ar safle'r hen Solva, un o brif gyffindrefi talaith Pannonia yn yr Ymerodraeth Rufeinig. Yn 960 dewisiodd Géza, Uchel Dywysog yr Hwngariaid, leoli ei lys yno, gan wneud Stregom (fel y'i gelwid erbyn hynny) yn brifddinas Tywysogaeth Hwngari, ac adeiladodd ei gastell ar y castrum Rhufeinig ar Várhegy (Bryn y Castell). Coronwyd István I yn frenin cyntaf Hwngari yno ym 1000 neu 1001. Yn ystod teyrnasiad István I, sefydlwyd yr archesgobaeth hynaf yn y wlad yn y ddinas hon. Dyma oedd preswylfa teyrnoedd brenhinllin Árpád hyd at ganol y 13g, ac erbyn hynny yr adnabyddid Esztergom wrth ei henw presennol.

Ildiodd Esztergom i'r Ymerodraeth Otomanaidd yn sgil gwarchae ar ei chastell ym 1543, a fe'i meddiannwyd gan yr Otomaniaid hyd at ddechrau Rhyfel Mawr y Twrc ym 1683. Yn y cyfnod hwnnw, symudwyd yr archesobaeth i Trnava; dychwelodd ym 1820, a fe'i ailenwyd yn Archesgobaeth Esztergom-Bwdapest ym 1991. Basilica Esztergom, a adeiladwyd ym 1822–60 ar safle hen eglwys gadeiriol István I, yw'r eglwys fwyaf yn Hwngari. Mae pensaernïaeth Esztergom yn nodedig am ei nifer o dai yn y dull Baróc.

Wedi'r Ail Ryfel Byd, datblygwyd diwydiannau i gynhyrchu ceir, nwyddau trydanol, a chynnyrch optegol.[1] Y boblogaeth yn 2022 oedd 27,897.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Esztergom. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Ionawr 2023.
  2. Esztergom, KSH