Archesgob

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Archesgobaeth)
Arfbais archesgob Catholig (rhoddir ei enw yn y sgrôl)

Prif esgob sydd ag awdurdod mewn rhai materion dros esgobion eraill yn ei dalaith eglwysig, ynghyd ag yn ei esgobaeth ei hun, yw archesgob. Hyd at yr 8g a dechrau'r nawfed 'metropolitan' oedd teitl swyddogol archesgob, enw sy'n cael ei ddefnyddio o hyd yn yr eglwysi uniongred, e.e. yng Ngwlad Groeg a Rwsia. Yn y gwledydd Celtaidd ymddengys fod archesgobion yn ffenomen cymharol ddiweddar a ddaeth i mewn wrth i ddylanwad ac awdurdod Eglwys Rufain ymledu; gosodwyd sylfeini'r system presennol yng Nghymru gan y Normaniaid.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]


Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.