Neidio i'r cynnwys

Emyr Daniel

Oddi ar Wicipedia
Emyr Daniel
GanwydAwst 1948 Edit this on Wikidata
Bu farw10 Chwefror 2012 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
PlantHannah Daniel Edit this on Wikidata

Darlledwr o Gymru oedd Emyr Daniel (30 Awst 194810 Chwefror 2012). Bu'n newyddiadurwr gyda HTV Cymru a BBC Cymru cyn dod yn uwch swyddog gyda HTV.[1]

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Roedd yn fab y mans ym Maenclochog, Sir Benfro. Mynychodd Ysgol Ramadeg Caerfyrddin ac aeth ymlaen i astudio yng Ngoleg yr Iesu, Rhydychen.

Yn 1970 cafodd ei swydd barhaol cyntaf gyda HTV yn gweithio ar raglen Report Wales, chwaer raglen Y Dydd. Bu am gyfnod yn gweithio i'r BBC gan weithio ar raglen Heddiw a'r rhaglen radio foreol Bore Da. Roedd hefyd yn ysgrifennu colofn wleidyddol i'r Faner. Yn yr 1980au dychwelodd at HTV Cymru fel pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes ac yn ddiweddarach daeth yn Reolwr Gyfarwyddwyr y darlledwr. Gadawodd HTV yn y 90'au cynnar i ddilyn gyrfa fel cynhyrchydd yn y sector annibynnol.[1] Cynhyrchodd nifer o raglenni dogfen ar gyfer cwmni Opus 30.

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod â Catrin ac yn dad i Mathew, Hannah a Beca. Bu farw yn ei gartref yng Nghaerdydd yn 63 mlwydd oed, o drawiad ar y galon.[2] Cynhaliwyd gwasanaeth angladd yn Eglwys Minny Street, Caerdydd ar 24 Chwefror 2012 am 1.30pm ac yna yng Nghapel y Wenallt, Amlosgfa'r Ddraenen Wen am 3.30pm.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "Colli'r darlledwr a'r cynhyrchydd teledu Emyr Daniel". BBC Cymru Fyw. 2012-02-10. Cyrchwyd 2025-04-29.
  2. Daniel, Hannah (2020-09-04). ""If Grief Is Debilitating, It's Also Liberating": How I Made Sense Of My Father's Death". British Vogue (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-04-30.
  3. "Hysbysiad marwolaeth Emyr Daniel". funeral-notices.co.uk. 2012-02-18. Cyrchwyd 2025-04-30.
  • Huw Davies, "Emyr Daniel (1948–2012)", Barn 590 (Mawrth 2012)