Emilie Autumn

Oddi ar Wicipedia
Emilie Autumn
Ganwyd22 Medi 1979 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
Label recordioTrisol Music Group, The End Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Indiana, Bloomington Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr, bardd, fiolinydd, pianydd, ysgrifennwr, harpsicordydd, canwr-gyfansoddwr, actor Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth glasurol, dark cabaret, industrial music, electronica, cerddoriaeth yr oes newydd, Canu gwerin Edit this on Wikidata
Math o laiscontralto Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.emilieautumn.com/ Edit this on Wikidata

Awdures a chantores-gyfansoddwraig Americanaidd yw Emilie Autumn (ganwyd 22 Medi 1979) sydd hefyd yn fardd, yn fiolinydd, yn bianydd, yn harpsicordydd ac yn actores.[1]

Ganed Autumn Mae Liddell yn Los Angeles ar 22 Medi 1979. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Indiana, Bloomington.[2][3][4]

Mae arddull gerddorol Emilie Autumn yn cael ei disgrifio ganddi fel "Fairy Pop", "Fantasy Rock" neu "Victoriandustrial". Y dylanwad pennaf yw roc glam, dramâu, nofelau, a hanes, yn enwedig o oes Victoria. Wrth berfformio, mae ganddi ddawnswyr benywaidd wrth gefn (The Bloody Crumpets), a cheir elfennau o gerddoriaeth glasurol, cabaret, electronica, a roc glam gyda theatrics, a burlesque.[5]

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Fe'i magwyd yn Malibu, California, a dechreuodd ddysgu'r ffidil yn bedair oed a gadael yr ysgol rheolaidd pum mlynedd yn ddiweddarach gyda'r nod o ddod yn fiolinydd o safon fyd-eang; bu'n ymarfer wyth neu naw awr y dydd a darllenodd ystod eang o lenyddiaeth ar yr offeryn. Gwniadwraig oedd ei mam ac roedd ei thad yn Almaenwr, ond nid oedd ganddi berthynas agos gydag ef. Roedd gan ei rhieni ddiddordeb mewn cerddoriaeth, er nad oeddent eu hunain yn cannu offeryn.[6][7]

Coleg a pherfformio[golygu | golygu cod]

Aeth ati i gyfansoddi ei cherddoriaeth ei hun ac astudiodd o dan amryw o athrawon ym Mhrifysgol Indiana; gadawodd ar ganol ei chwrs wedi cryn ddadlau yn ymwneud â'r berthynas rhwng cerddoriaeth glasurol a pherfformiadau byw, modern.

Aeth ati i greu ei label ei hun, Traitor Records, a chynhyrchodd albwm, On a Day: Music for Violin & Continuo gydag Enchant yn dynn ar ei sodlau, yn 2003.

Ymddangosodd fel rhan o fand cefn Courtney Love yn 2004, ar daith o'r enw America's Sweetheart, a dychwelodd i Ewrop. Cyhoeddodd Opheliac yn 2006, ar label Almaenig y Trisol Music Group.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Autumn, Emilie (5 Ebrill 2010). "There have been questions..." Twitter. Cyrchwyd 2 Chwefror 2011. There have been questions about my legal name for some reason lately – It's in the book. Emilie Autumn Liddell.
  2. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014
  3. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Emilie Autumn". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. "Emilie Autumn". The End Records. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Chwefror 3, 2010. Cyrchwyd Chwefror 16, 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. "Weekend Hotlist". Pittsburgh Post-Gazette. 3 Rhagfyr 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-08-18. Cyrchwyd 3 Ionawr2010. Check date values in: |accessdate= (help)
  6. Wilson, MacKenzie. [[[:Nodyn:Allmusic]] "Emilie Autumn"] Check |url= value (help). Allmusic. Cyrchwyd 11 Awst 2010.
  7. Autumn, Emilie (Medi 28, 2004). "My dad's gone, and more pleasant notes on the world today..." Emilie Autumn Ent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Hydref 2011. Cyrchwyd 21 Medi 2010. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)