Emil Aarestrup
Emil Aarestrup | |
---|---|
Emil Aarestrup | |
Ganwyd | 4 Rhagfyr 1800 Copenhagen |
Bu farw | 21 Gorffennaf 1856 Odense |
Dinasyddiaeth | Brenhiniaeth Denmarc |
Galwedigaeth | bardd, meddyg, meddyg ac awdur, llenor |
Bardd a meddyg o Ddenmarc oedd Carl Ludvig Emil Aarestrup (4 Rhagfyr 1800 – 21 Gorffennaf 1856).
Ganed yn Copenhagen, prifddinas Teyrnas Denmarc. Cafodd ei amddifadu yn 7 oed a'i fagu gan gyfeillion teuluol. Astudiodd feddygaeth ym Mhrifysgol Copenhagen, ac yno cyfarfu â'i gyfnither Caroline Aagard. Priododd Emil â Caroline, a chawsant 13 o blant. Gweithiodd Aarestrup yn feddyg ar ynysoedd Lolland a Fyn am ugain mlynedd.[1] Bu farw yn Odense yn 55 oed.
Cyfansoddodd Aarestrup y rhan fwyaf o'i farddoniaeth yn y cyfnod o 1820 i 1840. Cyhoeddodd y gyfrol Digte ym 1838, ac wedi ei farwolaeth cyhoeddwyd y gyfrol Efterladte Digte (1863). Ni chafodd fawr o werthfawrogiad yn ystod ei oes, ond wedi ei farwolaeth fe'i cydnabuwyd yn un o delynegwyr gwychaf llên Denmarc, ar y cyd â Christian Winther. Cyhoeddwyd casgliad o'i farddoniaeth, gydag ysgrif feirniadol gan Georg Brandes, yn Copenhagen ym 1877.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Jack Brondum a Peer L. Aarestrup (goln), "Selected Poems by Emil Aarestrup", The Bridge 39 (2), Prifysgol Brigham Young (2016). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 29 Mehefin 2021.