Elizabeth Rees-Williams
| Elizabeth Rees-Williams | |
|---|---|
| Ganwyd | 1 Mai 1936 Caerdydd |
| Bu farw | 15 Ebrill 2022 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | actor |
| Tad | David Rees-Williams, Barwn 1af Ogwr |
| Mam | Constance Wills |
| Priod | Richard Harris, Jonathan Aitken, Rex Harrison, Peter Michael Aitken |
| Plant | Damian Harris, Jared Harris, Jamie Harris |
Cymdeithaswraig o Gymru yw Joan Elizabeth Rees-Williams, Yr Anrh. Mrs Aitken (ganed 1 Mai 1936). Roedd ganddi ddau ran mewn ffilm yn y 1940au cynnar.[1]
Cafodd ei geni yng Nghaerdydd, yn ferch i Alice Alexandra Constance (née Wills) a'r gwleidydd David Rees-Williams, Barwn 1af Ogwr. Mae ganddi dri o blant o'i phriodas gyntaf gydag o leiaf wyth o lysblant o'r priodasau hwyrach.
Priodasau a phlant
[golygu | golygu cod]Mae hi wedi bod yn briod bedair gwaith.
Priododd yr actor Richard Harris yn 1957, a chafodd dri mab gydag e (Jared Harris, Jamie Harris, a Damian Harris). Ysgarodd y cwpl yn 1969. Syr Rex Harrison oedd ei hail ŵr o 1971 i 1975, a chafodd ddau fab (Noel Harrison a Carey Harrison). Ei trydydd gŵr oedd Peter Michael Aitken gan briodi yn 1980 ac ysgaru yn 1985. Mae gan Aitken ddau fab, (James a Jason Aitken) ac mae'n gefnder i'w gŵr presennol, Jonathan.
Jonathan Aitken yw ei gŵr presennol, ac fe briododd y ddau ar 25 Mehefin 2003. Mae gan Aitken blant o'i briodas gyntaf - tair merch ac un mab,[2] (Alexandra Aitken, Victoria Aitken, Petrina Khashoggi, a William Aitken).[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Elizabeth Rees
- ↑ Ridley, Yvonne (10 January 1999). "Family rallies round Aitken's secret Khashoggi love child". The Guardian. London. Cyrchwyd 26 March 2010.
- ↑ Edwardes, Charlotte; Syal, Rajeev (12 Awst 2001). "Aitken children in fight to keep share of estate". The Daily Telegraph. London. More than one of
|last1=a|last=specified (help); More than one of|first1=a|first=specified (help)