Eliza Constantia Campbell
Gwedd
| Eliza Constantia Campbell | |
|---|---|
| Ganwyd | 8 Ionawr 1796 |
| Bu farw | 1864 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr |
Awdures o Gymru oedd Eliza Constantia Campbell (Morrieson) (8 Ionawr 1796 – 1864).[1] Roedd ei thad Richard Pryce o Gunley (Forden) yn un o ddisgynyddion y Capten Richard Pryce fu'n filwr blaenllaw o blaid y Senedd yn ystod Rhyfel Cartrefol Lloegr a Chymru. Roedd Eliza'n awdures, a bu'n briod yn gyntaf gyda'r Commander Robert Campbell R.N. (bu farw 1832) yn 1826, a oedd yn gefnder i'r bardd Thomas Campbell, ac yn ail gyda'r Capten Hugh Morrieson, E.I.C. (bu farw 1859) yn 1844. O'r briodas gyntaf y ganwyd Lewis Campbell, yr ysgolhaig Groeg. Fel awdur cyhoeddodd y llyfr Stories from the History of Wales (1833), ac yna'r ail-agraffiad gyda'r teitl Tales about Wales (1837). Bu farw Eliza yn 1864.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- R. Williams, Montgomeryshire Worthies, ail arg., 1894
- Cardiff Free Libraries, Catalogue of Printed Literature in the Welsh Department, 1898.