Elfyn John Richards

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Elfyn John Richards
Elfyn Richards.JPG
Ganwyd 28 Rhagfyr 1914 Edit this on Wikidata
Y Barri Edit this on Wikidata
Bu farw 7 Medi 1995 Edit this on Wikidata (80 oed)
Alma mater Coleg Sant Ioan, Caergrawnt Edit this on Wikidata
Gwaith Peiriannydd awyrennau, peiriannydd, ffisegydd edit this on wikidata
Cyflogwr Prifysgol Southampton Edit this on Wikidata

Ffisegwr Cymreig oedd Elfyn John Richards (28 Rhagfyr 19147 Medi 1995).

Dyddiau cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd yn y Barri ym 1914. Addysgwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac wedyn ymlaen i Gaergrawnt fel cyn-orthwyr ymchwil i Gwmni Awyrennau Bryste. Ar ôl ei gyfnod ym Mryste gweithiodd yn adran awyrennau'r Labordy Ffisegol Cenedlaethol. Richards oedd prif gynllunydd cynorthwyol Vickers Armstrong ac roedd yn gyfrifol am gynllun yr awyrennau Viking, Viscount a’r VC 10. Roedd hyn yn ystod 1945 a 1950.

Gwaith academaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Penodwyd Richards yn Athro Peirianneg Awyrennol ym Mhrifysgol Southampton a phenodwyd ef yn gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil i Sŵn a Dirgryniad. Yn 1959 fe gafodd radd D.Sc Cymru fel cydnabyddiaeth o’i waith a derbyniodd fedalau aur Sefydliad y Peirianwyr sifil a’r Gymdeithas Awyrennol Frenhinol.

Penodwyd ef yn is-ganghellor Prifysgol Loughborough yn 1973.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Roberts, O.E. Rhai o Wyddonwyr Cymru. Cyhoeddiadau Modern Cymreig.