Eldryd Parry
Gwedd
| Eldryd Parry | |
|---|---|
| Ganwyd | 27 Tachwedd 1930 |
| Bu farw | 13 Tachwedd 2022 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | academydd |
| Gwobr/au | OBE, Marchog-Cadlywydd Urdd Saint Mihangel a Sant Siôr, Medal Donald Mackay, Cymrawd Anrhydeddus Coleg Brenhinol y Llawfeddygon |
Roedd Syr Eldryd Hugh Owen Parry KCMG, OBE (27 Tachwedd 1930 – 13 Tachwedd 2022) yn academydd a meddyg Cymreig. Roedd e'n sylfaenydd yr Ymddiriedolaeth Iechyd ac Addysg Drofannol.[1]
Cafodd Parry ei addysg yn Ysgol Amwythig ac astudiodd feddygaeth yng Ngholeg Emmanuel, Caergrawnt.[2] Bu'n gweithio yn y Royal Postgraduate Medical School yn Llundain cyn secondiad i Ysbyty Coleg y Brifysgol, Ibadan, Nigeria, ym 1960. Daliodd sawl swydd yn Nigeria. Yr oedd Parry yn Gymrawd er Anrhydedd o Brifysgol Caerdydd.
Priododd Parry â'r academydd Helen Parry a bu iddo bedwar o blant a phedwar o wyrion ac wyresau. Bu farw Eldryd Parry ar 13 Tachwedd 2022, yn 91 oed. [3]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Principles of Medicine in Africa[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "THET - Working in partnership to support health workers across the world" (yn Saesneg).
- ↑ "Fellows | Contact | Emmanuel College, Cambridge". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-05. Cyrchwyd 2022-11-21.
- ↑ "Professor Sir Eldryd Hugh Owen Parry death notice". The Times. 17 Tachwedd 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-11-21. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2022.
- ↑ Geoff Watts. "Eldryd Parry: lifelong visionary in global health" (PDF). The Lancet (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Tachwedd 2022.