Eirin Peryglus

Oddi ar Wicipedia
Eirin Peryglus
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1987 Edit this on Wikidata
Genresynthpop Edit this on Wikidata

Grŵp synthpop Cymraeg oedd Eirin Peryglus.

Fiona Owen oedd prif gantores y band a hithau yn wraig i Gorwel Owen, cynhyrchydd a pherchennog stiwdio recordio a label Ofn.[1] Fe wnaeth y band recordio sesiynau ar gyfer BBC Radio Cymru ac ymddangos sawl gwaith ar rhaglenni teledu cerddoriaeth S4C. Chwaraewyd recordiau'r band ar raglen John Peel, BBC Radio 1 hefyd.[2] Mae'r band wedi mwynhau sylw o'r newydd gan gynnwys ar raglen Recordiau Rhys Mwyn ar Radio Cymru ers rhyddhau eu catalog o ganeuon ar lwyfannau digidol yn 2021.[3]

Aelodau[golygu | golygu cod]

  • Fiona Owen - llais
  • Alun Davies - gitâr/llais
  • Robin Griffiths - allweddellau/llais

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

Teitl Fformat Label Rhif Catalog Blwyddyn
"Bronson / Y Dyn Newydd" Sengl 7" Recordiau Ofn OFN 03 1987
"Dafydd Yn Gwneud Teisen / Merthyr " Sengl 7" Recordiau Ofn OFN 06 1988
Y Llosg EP 12" feinyl Recordiau Ofn OFN 07B 1989
Trosgynnol EP caset Recordiau Ofn OFN 010C 1990
Noeth Albwm CD Recordiau Ofn OFN 014CD 1992
Lleuad Mehefin EP CD Recordiau Ofn OFN 015CD 1995

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Cyfweliad Gorwel Owen. ytwll.com (3 Mawrth 2010). Adalwyd ar 3 Chwefror 2017.
  2. John Peel a'r Sin Roc Gymraeg , BBC Cymru Fyw, 25 Hydref 2014. Cyrchwyd ar 3 Chwefror 2017.
  3. Rhyddhau catalog Eirin Peryglus yn ddigidol am y tro cyntaf , Y Selar, 24 Tachwedd 2021. Cyrchwyd ar 12 Ionawr 2022.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]