Eglwys y Gwir Iesu
Mae Eglwys y Gwir Iesu yn eglwys annibynnol a sefydlwyd yn Beijing, Tsieina ym 1917. Heddiw mae yna oddeutu 1.5 miliwn o aelodau ym 45 gwlad [1]. Perthyn yr eglwys i'r gangen Brotestanaidd Bentecostaidd of Gristnogaeth a ymddangosodd yn ystod yr 20g gynnar [2]. Ers y 1980au sefydlwyd yr eglwys yma yn y DU. Ni ddethlir y Nadolig na'r Pasg gan yr eglwys [3].
Dyma ddeg athrawiaeth sylfaenol
[golygu | golygu cod]Dyma ddeg athrawiaeth sylfaenol yr eglwys:
"Cred yr eglwys bod "siarad mewn tafodau" yn dystiolaeth o dderbyn yr Ysbryd Glân. Mae derbyn yr Ysbryd Glân yn hanfodol er mwyn dod i'r nefoedd. Mae'n tystio eich bod yn fab i Dduw. Yr Ysbryd Glân ydy'r Cymhorthydd a'r Cysurydd yr eich taith nefol."
"Bedyddio mewn dŵr ydy'r sagrafen ar gyfer maddeuant pechodau ac ar gyfer adfywiad. Gweithredir y bedydd yn enw'r Iesu mewn dŵr naturiol a byw gyda'r sawl a fedyddir â'i ben tua lawr i efelychu marwolaeth yr Iesu. Dylai'r person sydd yn derbyn y bedydd fod wedi'i drochi'n llwyr mewn dŵr a'i ben wedi'i blygu a'i wyneb tuag i lawr."
"Y Cymun Sanctaidd ydy'r sagrafen sy'n coffau marwolaeth yr Alglwydd Iesu Grist ar yr groes. Wrth i aelodau dderbyn cnawd a gwaed yr Arglwydd maent mewn cymundeb ysbrydol â fe - gyda'r gobaith am fywyd tragwyddol ac atgyfodiad ar Ddydd y Farn. Dim ond un bara croyw a sudd grawnwin a ddefnyddir a'i rannu ymysg y gynulleidfa."
"Galluoga'r sagrafen o olchi traed rywun i gyfranogi yn yr Arglwydd; ac mae'n dysgu sancteiddrwydd, gostyngeiddrwydd, gwasanaeth a maddeuant. Gweithredir e yn enw'r Iesu ar bob aelod sy newydd ei fedyddio."
"Mae dydd Saboth, seithfed dydd yr wythnos (dydd Sadwrn), yn ddydd sanctaidd wedi'i fendithio a'i sancteiddio gan Dduw. Mae rhaid ei gadw o dan ras Duw er mwyn coffâd cread a iachawdwriaeth Duw a chyda'r gobaith am orffwys tragwyddol yn y bywyd sydd i ddod."
"Bu farw Iesu Grist, y Gair a ddaeth yn gnawd, ar y groes er mwyn prynedigaeth pechaduriaid, atgyfodwyd ar y trydydd dydd ac esgynnodd i'r nefoedd. Efe yw unig Waredwr dynoliaeth, Creawdur y nefoedd a'r ddaear, a'r unig wir Dduw."
"Mae'r Beibl Sanctaidd, sy'n cynnwys yr Hen Destament a'r Testament Newydd, wedi'i ysbrydoli gan Dduw, yr unig wirionedd ysgrythurol, a'r safon ar gyfer byw'n Gristnogol."
"Rhoddir iachawdwriaeth gan ras Duw drwy ffydd. Mae rhaid i gredinwyr ddibynnu ar yr Ysbryd Glân i fynd ar drywydd sancteiddrwydd, i anrhydeddu Duw, ac i garu dynoliaeth."
"Gwir eglwys y cyfnod apostolaidd wedi'i hadfer yw Eglwys y Gwir Iesu, a sefydlwyd gan ein Harglwydd Iesu Grist, trwy'r Ysbryd Glân yn ystod y 'teyrnasiad olaf'."
"Bydd Ail Ddyfodiad yr Arglwydd yn digwydd ar y Dydd Olaf pan ddisgyna E o'r nefoedd i farnu'r byd: Caiff y cyfiawn fywyd tragwyddol, tra condemnir yr anghyfiawn am byth."
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Allan Anderson: An introduction to Pentecostalism: global charismatic Christianity, p. 133—134
- ↑ J. Gordon Melton (2005). Encyclopedia of Protestantism. t. 536. ISBN 0816069832. Page 536
- ↑ Origins of Easter