Neidio i'r cynnwys

Eglwys y Bedyddwyr Saesneg, Caerfyrddin

Oddi ar Wicipedia
Eglwys y Bedyddwyr Saesneg
Matheglwys Brotestannaidd, capel Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCaerfyrddin Edit this on Wikidata
SirCaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr16.3 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8568°N 4.30923°W Edit this on Wikidata
Cod postSA31 3AD Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth neoglasurol Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Eglwys (neu gapel) y Bedyddwyr ar Heol Awst yng Nghaerfyrddin yw Eglwys y Bedyddwyr Saesneg[1] (Saesneg: English Baptist Church). Mae'n adeilad rhestredig Gradd II* a ddisgrifir fel capel clasurol uchelgeisiol yn bensaernïol.[2]

Disgrifiad

[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd yr eglwys ar safle tafarn y "Black Horse" ar ochr ogleddol y stryd yn 1869/70. Hwn oedd gwaith pwysig cyntaf y pensaer George Morgan o Gaerfyrddin.[2] Daeth Morgan yn ddeon yn y capel.[3]

Mae gan y capel ffasâd carreg Caerfaddon, sy'n cynnwys pedair colofn Gorinthaidd. Mae'r capel wedi cadw ei ddodrefnu gwreiddiol y tu mewn, gyda galeri pren ar hyd y wal flaen, ar golofnau haearn.[3]

Mae cwrt o flaen y capel sy'n cynnwys giât a rheiliau haearn addurniadol ar Heol Awst. Mae'r giât a rheiliau'n rhestredig Gradd II.[4]

Cegin gymunedol

[golygu | golygu cod]

Lansiwyd cegin gymunedol, Cegin Hedyn, yn yr eglwys yn 2022. Mae pobl yn talu'r hyn y gallant ei fforddio. Darparwyd 3,000 o brydau bwyd yn ystod y flwyddyn gyntaf.[5]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Capeli ag Eglwysi. Cyngor Tref Caerfyrddin. Adalwyd ar 1 Medi 2024.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) English Baptist Church - A Grade II* Listed Building in Carmarthen, Carmarthenshire. British Listed Buildings. Adalwyd ar 1 Medi 2024.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Powel, Meilyr (10 Chwefror 2009). English Baptist Church, Lammas Street, Carmarthen. Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Adalwyd ar 1 Medi 2024.
  4. (Saesneg) Gates, gateposts and railings to English Baptist Church - A Grade II Listed Building in Carmarthen, Carmarthenshire. British Listed Buildings. Adalwyd ar 1 Medi 2024.
  5. (Saesneg) Lewis, Ian (30 Hydref 2023). Carmarthen community kitchen and canteen Cegin Hedyn marks first year since launching. In Your Area. Adalwyd ar 1 Medi 2024.

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]


 Mae'r erthygl hon yn Eginyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ei datblygu.