Eglwys Tysilio a Mair

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Tysilio a Mair

Eglwys a leolir ym Meifod, Sir Drefaldwyn, yw Eglwys Tysilio a Mair.[1] Yn y 6ed ganrif sefydlwyd cymdeithas grefyddol ym Meifod gan Gwyddfarch, a daeth yn brif eglwys Powys. Eglwys o bren fyddai rywle ar y safle hwn ar y dechrau, gydag adeiladau syml o’i hamgylch i’r mynachod neu’r clerigwyr fyw ynddynt.

Adeiladwyd sawl eglwys ar y safle hwn. Rhwng y 10fed a'r 12fed ganrif yr oedd awr anterth yr eglwys. Byddai pobl o bell ac agos yn dod yno ar bererindodau, ac mae’n debyg fod sawl tywysog o Bowys wedi ei gladdu yma. Byddai cael eich claddu mewn mynwent eglwys a oedd yn gysylltiedig â sant yn cryfhau eich siawns o gael mynd i’r nefoedd – ac felly byddai unigolion yn rhoi arian a rhoddion o dir i’r eglwysi lleol.[2] [3]

Yn y 12fed ganrif adeiladodd Madog ap Maredudd, tywysog Powys ar y pryd, eglwys newydd mewn steil Normanaidd: adeiladwyd hi ar siâp croes gan ddefnyddio bwâu o dywodfaen coch. Credir bod rhan o’r eglwys sydd i’w gweld heddiw ar yr un safle â’r eglwys Normanaidd hon, ond fod yr eglwys honno wedi’i lleoli ychydig ymhellach i’r gorllewin.

Mae’n debyg mai Madog ap Maredudd oedd yr olaf o dywysogion Powys i gael ei gladdu yn eglwys Meifod yn 1160.[4] Dirywiodd bri eglwys Meifod wedi i’r tywysog Owain Cyfeiliog godi mynachlog Sistersaidd Ystrad Marchell ger y Trallwng.

Ailadeiladwyd yr eglwys yn y 15fed ganrif, a dyma yw sail yr eglwys sydd yma heddiw. Mae’r to derw’n dyddio o’r cyfnod hwn. Wedi Deddf Uno 1536 bu cyfnod llewyrchus yn Sir Drefaldwyn, a bu cyfnod o atgyweirio ddiwedd y 17fed ganrif.

Prynwyd yr organ sydd i’w gweld yno heddiw yn y 19fed ganrif: roedd hi’n organ ddrud iawn, £187-8s-7d, a fyddai’n werth bron i £10,000 heddiw. Adeiladwyd hi yn y 18fed ganrif. Mae’r rhan fwyaf o ffenestri lliw’r eglwys wedi’u gwneud yn ystod yr 19fed ganrif gan David Evans o Amwythig, er bod rhai o’r ffenestri’n hŷn na’i gilydd.

Ar wal y dwyrain ar yr ystlys dde mae’r ffenestr a baentiwyd oddeutu 1856 gan David Evans o Amwythig yn ffenestr goffa i’r teulu Mytton, teulu adnabyddus o Amwythig ar ddiwedd y 16fed ganrif.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Frances Ward, Meifod Church: a history and guide’ (2011); 
  2. ‘Canu Cynddelw Brydydd Mawr i Dysilio Sant’ Ysgrifau Beirniadol XVIII (1992), tt. 73–99
  3. David Cynddelw Brydydd Mawr i Dysilio Sant’ Ysgrifau Beirniadol XVIII (1992), tt. 73–99
  4. Jenkins, David The Historical Atlas of Montgomeryshire (Y Trallwng, 1999).