Eglwys Sant Gofan
| Math | capel, safle archaeolegol |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro |
| Rhan o'r canlynol | Eglwys a ffynnon Sant Gofan |
| Lleoliad | Y Stagbwll a Chastellmartin |
| Sir | Y Stagbwll a Chastellmartin |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 23.3 metr |
| Cyfesurynnau | 51.5987°N 4.93673°W |
| Hyd | 5.3 metr |
![]() | |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
| Cysegrwyd i | Gofan |
| Manylion | |
| Deunydd | calchfaen, llechfaen |
Efallai mai'r peth mwyaf trawiadol am Eglwys Sant Gofan yw ei lleoliad: saif yng nghesail creigiau calchfaen geirwon ar fin y dŵr ar arfordir Sir Benfro, tua dwy filltir i'r de o Bosherston. Cell feudwy ydyw ac mae'n mesur 20 wrth 12 tr (6.1 m × 3.7 m); un ystafell yn unig ydy'r gell. Fel y creigiau o'i chwmpas fe'i codwyd o galchfaen tua'r 6g, er bod yr hyn a welir heddiw dipyn yn ddiweddarach - y 13g.[1]
Mae'r enw'n awgrymu mai ar gyfer y mynach Gofan y'i codwyd a cheir ogof gerllaw, lle cysgododd tra'n codi'r lloches. Yn ôl traddodiad llafar lleol cafodd Gofan ei gladdu o dan yr allor ar ochr ddwyreiniol yr adeilad.[2] Ar yr ochr ogleddol mae'r fynedfa, a cheir meinciau isel o garreg ar hyd y waliau gogleddol a deheuol a cheir agen wag yn y graig lle gynt y safodd y gloch.[3] Mae'r to o lechan ac yn gymharol fodern.[3]
Mewn chwedl arall dywedir i Gofan ddianc am ei fywyd oddi wrth fôr-ladron ysbeilgar ac i'r graig agor o'i flaen, er mwyn iddo guddio'n ddiogel. Gwnaeth hynny, ac fel diolch am y wyrth gysegrodd ei fywyd i'w Dduw.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Llun gan Eirian Dafydd; Hydref 2024
-
Yr olygfa o'r eglwys; llun gan Eirian Dafydd; Hydref 2024
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Gofannon fab Dôn
- Govan, Rhan o Glasgow, yr Alban
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The Beauties of England and Wales, or, Delineations, topographical, historical, and descriptive, of each county, Cyfrol 18 . 1815. t. 805.
- ↑ "St Govan's Chapel".
- ↑ 3.0 3.1 "St Govan's Chapel". Coflein. Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-25. Cyrchwyd 2014-05-24. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=(help)
