Eglwys Gadeiriol Salvador
Math | eglwys gadeiriol Gatholig, basilica minor, safle hanesyddol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Salvador |
Gwlad | Brasil |
Uwch y môr | 197 troedfedd |
Cyfesurynnau | 12.97283°S 38.51033°W |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Faróc |
Statws treftadaeth | heritage asset listed by IPHAN, Heritage of Portuguese Influence |
Cysegrwyd i | Gweddnewidiad yr Iesu |
Manylion | |
Esgobaeth | Archesgobaeth São Salvador da Bahia |
Eglwys gadeiriol sy'n sedd archesgobaeth dinas Salvador yn nhalaith Bahia, Brasil, yw Eglwys Gadeiriol Salvador (Portiwgaleg: Catedral Basílica de Salvador).
Crewyd Esgobaeth São Salvador da Bahia de Todos os Santos, y gyntaf yng ngwladfa Bortiwgalaidd Brasil, yn 1551, cwta dwy flynedd ar ôl sefydlu Salvador gan yr uchelwr Portiwgalaidd Tomé de Sousa. Cyrhaeddodd yr esgob cyntaf, Pero Fernandes Sardinha, yn 1552 a chodwyd eglwys gadeiriol yng nghanol y ddinas newydd tua'r adeg hynny.
Yn 1676 daeth yn sedd yr archesgobaeth. Ar ôl 1758, pan yrrwyd y Jeswitiaid allan o'r wlad, trowyd yr hen eglwys Jeswitaidd yn eglwys gadeiriol Salvador. Dymchwelwyd yr eglwys gadeiriol wreiddiol yn 1933 a dim ond olion ei sylfeini sydd i'w gweld yn y Praça da Sé (Sgwar yr Eglwys Gadeiriol) yn Salvador heddiw.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Portiwgaleg) Gwefan swyddogol archesgobaeth Salvador Archifwyd 2007-08-18 yn y Peiriant Wayback
- (Portiwgaleg) Gwefan swyddogol Twristiaeth Salvador[dolen farw]