Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin

Oddi ar Wicipedia
Man cyfarfod yn Heol yr Hen Orsaf

Sefydlwyd Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin yn ffurfiol ar 22 Mawrth 1989. Cyn hynny perthynai'r aelodau i Carmarthen Evangelical Church, eglwys Saesneg annibynnol yng Nghaerfyrddin, ac mae cysylltiad cryf ac agos wedi parhau rhwng y ddwy eglwys. Am ugain mlynedd cyntaf ei hanes bu'r eglwys yn cyfarfod mewn ystafell yn yr un adeilad â'i chwaer eglwys, sef y 'Presbi', adeilad yr hen Goleg Presbyteraidd ar y Rhodfa, neu'r 'Parêd'. Gweinidog cyntaf yr eglwys oedd y Parch Dafydd Protheroe Morris. Olynwyd Dafydd Morris gan y Parch Geraint Lloyd, a fu'n weinidog rhwng 1999 a 2006.

Prynu Adeilad[golygu | golygu cod]

Yn 2008 prynwyd adeilad y 'Moose Hall' yn Heol yr Hen Orsaf ar lan afon Tywi. Ar ôl ei atgyweirio dechreuwyd cynnal oedfaon yno ym mis Gorffennaf 2009.

Galw Efengylydd[golygu | golygu cod]

Ddechrau 2017 derbyniodd y Parchg Roger Thomas alwad i ymuno â'r eglwys fel efengylydd amser llawn, gan ddechrau ar ei waith ar 1 Mawrth.

Swyddogion a Chyfarfodydd[golygu | golygu cod]

Yn 2018 henuriaid yr eglwys oedd Parry Davies a Robert Rhys. Mae'r eglwys yn cyfarfod ddwywaith ar y Sul ac ar nos Fercher. Cyhoeddir manylion llawn am y cyfarfodydd ar wefan yr eglwys ac mae modd gwrando ar bregethau a draddodir ar y wefan hefyd

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]