Neidio i'r cynnwys

Edrych am Jiwlia

Oddi ar Wicipedia
Edrych am Jiwlia
Siôn Lewis, Siôn Jobbins, Rhisiart Williams a Huw Bunford - Edrych am Jiwlia. Cyngerdd yng Nghricieth; Eisteddfod Porthmadog 1987.
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Label recordioAnkst Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1985 Edit this on Wikidata
Dod i ben1989 Edit this on Wikidata

Grŵp pop Cymraeg o Gaerdydd oedd Edrych am Jiwlia a ffurfiwyd yn 1985.[angen ffynhonnell]

Aelodau

[golygu | golygu cod]
Siôn Jobbins - llais, geiriau
Siôn Lewis - gitâr, cerddoriaeth
Huw Bunford - gitâr fâs
Rhisiart Williams - drymiau

Bu ymddangosiadau ar raglen ieuenctid S4C Stîd a dau fideo ar Fideo 9 - Myfyrio a Dau Berson.

Wedi chwalu'r grwp yn 1989 aeth Siôn Lewis a Huw Bunford ymlaen i ffurfio grŵp Y Gwefrau gyda Rebecca Evans a Gwenllian Lewis (chwaer Siôn yn canu), Pippa Mahoney ar y gitâr ac Owen Stickler ar y drymiau (a drymiwr grwp Y Crumblowers, grŵp arall o Gaerdydd ).

Bu Siôn Lewis yna'n aelod o grŵp Profiad Rhys Lloyd ddaeth maes o law yn Y Profiad a chyfrannodd i nifer o grwpiau pop Cymraeg eraill yn cynnwys Tynal Tywyll.

Aeth Huw Bunford yn ei flaen i fod yn un o aelodau Super Furry Animals.

Disgyddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • "Chi yw'r ateb i Bopeth" ar sengl aml-gyfrannog rhaglen Bilidowcar, Popdri (1985)
  • Gwilym Roberts (Caset, 1987) - enwyd fel teyrnged i Gwilym Roberts, athro ac ymgyrchydd iaith poblogaidd ac amlwg yng Nghaerdydd
  • "Cydwybod Euog" ar gaset aml-gyfrannog Gwyrdd, Mudiad Ieuenctid Plaid Cymru (1987)
  • "Myfyrio" ar EP amlgyfrannog Pop Positif (1988)
  • Dau Berson - Sengl 7" Ankst (ANKST 06, 1989)


Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato