Dyfnan
Gwedd
| Dyfnan | |
|---|---|
| Man preswyl | Llanddyfnan |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | mynach |
| Dydd gŵyl | 21 Ebrill |
| Tad | Brychan |

Sant o Gymru oedd Dyfnan (fl. 5g).
Hanes a thraddodiad
[golygu | golygu cod]Ychydig a wyddys amdano. Yn ôl yr achau roedd yn un o feibion niferus Brychan, brenin Teyrnas Brycheiniog. Sefydlodd llan yn Llanddyfnan, Ynys Môn, a dywedir ei fod wedi ei gladdu yno.[1]
Roedd gan Llanddyfnan dri chapel ym Môn yn deillio ohoni, yn Llanbedr-goch, Pentraeth a Llanfair Mathafarn Eithaf.[1]
Dethlid ei wylmabsant ar ddiwedd Ebrill (21-24 Ebrill).[1]