Neidio i'r cynnwys

Dydi Fama’n Madda i Neb (albwm)

Oddi ar Wicipedia
Dydi Fama'n Madda i Neb
Albwm stiwdio gan Twmffat
Rhyddhawyd Mehefin 2012
Label Recordiau Bos

Ail albwm y grŵp Twmffat yw Dydi Fama'n Madda i Neb. Rhyddhawyd yr albwm ym Mehefin 2012 ar y label Recordiau Bos.

Dyma ail albwm Ceri Cunnington a’i gyfeillion. ac mae arni amrywiaeth o sŵn sy’n cynnwys roc, gwerin, ska a dub.

Dewiswyd Dydi Fama'n Madda i Neb yn un o ddeg albwm gorau 2012 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]

Canmoliaeth

[golygu | golygu cod]

Albwm llawn caneuon bachog ond caneuon efo testun go iawn i gnoi cil arno hefyd.

—Heledd Williams, Y Selar

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]